Technegydd Addysgu Ystwyth (Clinigol) (absenoldeb mamolaeth)
- Rhif y Swydd
- SU01329
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £23,881 i £25,733 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 4 Ion 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 14 Ion 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
- Katarina Kusz k.e.kusz@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Swydd amser llawn yw hon i gyflenwi am gyfnod absenoldeb mamolaeth tan fis Ionawr 2027.
Mae'r tîm technegol Sgiliau Clinigol am recriwtio unigolyn trefnus a brwdfrydig sydd â sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog i gefnogi trefniadau addysgu ac arholiadau ar gyfer amrywiaeth o raglenni gofal iechyd yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd.
Mae'r Technegydd Addysgu Ystwyth (Clinigol) yn gyfrifol am baratoi a threfnu ystafelloedd dosbarth â chyfarpar a deunyddiau traul clinigol priodol, gan sicrhau bod gan gydweithwyr academaidd y cyfarpar i ddarparu addysgu o safon uchel. Mae’r cyfrifoldebau hefyd yn cynnwys archebu stoc, rheoli storfeydd, ymgymryd â gwaith cynnal a chadw rheolaidd ac adweithiol i gyfarpar, a gweithio ar y cyd â chydweithwyr academaidd ac yn y gwasanaethau proffesiynol.
Mae cefndir mewn amgylchedd addysg uwch, clinigol, neu efelychu yn ddymunol ond nid yw'n hanfodol gan y bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu. Rydym yn chwilio am rywun sydd â sgiliau rhyngbersonol profedig, lefel uchel o fedrusrwydd corfforol ar gyfer symud cyfarpar rhwng ystafelloedd ac adeiladau, a'r cymhelliant i ddysgu a datblygu sgiliau mewn rôl amrywiol a deinamig. Mae Prifysgol Abertawe'n cynnig amrywiaeth o gyrsiau ar gyfer eich datblygiad proffesiynol yn ogystal â chyfleoedd hyfforddiant sy'n benodol i'r rôl.
Disgwylir i’r ymgeisydd weithio o bryd i’w gilydd yn y cyfleuster Anatomeg yn yr Ysgol Feddygaeth, gan weithio gyda sbesimenau meinweoedd dynol dan oruchwyliaeth ac yn unol â Deddf Meinweoedd Dynol 2004, gan gynnwys sleidiau patholeg, breichiau a choesau wedi’u difynu a chelanedd cyfan. Bydd deiliad y swydd yn gweithio ar gampws Singleton yn bennaf, ond bydd hi’n ofynnol darparu cymorth technegol o bryd i’w gilydd ar ein campws ym Mharc Dewi Sant, Caerfyrddin. Mae'r gallu i yrru fan yr adran yn ddymunol felly. Oriau craidd y tîm yw 8am i 4pm ond bydd disgwyl i chi weithio'n hyblyg i gefnogi gweithgarwch addysgu pan fo angen. Croesewir ymholiadau am weithio hyblyg.
Oherwydd natur y rôl, mae ymweliad anffurfiol cyn y cyfweliad yn cael ei argymell yn gryf. Mae croeso i chi gysylltu â Katarina Kusz drwy e-bost yn k.e.kusz@abertawe.ac.uk.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr