- Rhif y Swydd
- SU01338
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £39,355 i £45,413 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 4 Ion 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 19 Ion 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
- Simon Dymond s.o.dymond@swanse.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Swydd am gyfnod penodol yw hon tan fis Mai 2026, yn gweithio 21 awr yr wythnos.
Mae'r Ganolfan Ymchwil, Addysg a Thriniaeth Gamblo (GREAT) yn chwilio am Swyddog Ymchwil i'r astudiaeth Edrych yn ôl er mwyn Symud Ymlaen sy'n astudio llwybrau at niwed yn sgîl gamblo ymysg cyn-filwyr y Lluoedd Arfog.
Gan weithio'n agos â phrif ymchwilydd Edrych yn ôl er mwyn Symud Ymlaen (Yr Athro Simon Dymond, Prifysgol Abertawe), a phartneriaid allanol (Adferiad), bydd deiliad y swydd yn helpu i ddylunio, cynnal, gwerthuso ac adrodd am ganfyddiadau effaith y pecyn cymorth pwrpasol i hwyluso adnabod ac asesu niwed sy'n ymwneud â gamblo ymysg cyn-filwyr y Lluoedd Arfog. Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, cymwys ac uchel ei gymhelliant, sy'n gallu gweithio'n unigol, i gyfathrebu â phartneriaid allanol a'r cyllidwr, cynnal ymweliadau ar y safle, a rheoli misoedd olaf yr astudiaeth arloesol hon.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr