- Rhif y Swydd
- SU01362
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £23,881 i £25,733 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Gwasanaethau Addysg
- Lleoliad
- Singleton neu Gampws y Bae, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 5 Ion 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 12 Ion 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Gareth Davies g.a.davies@swansea.ac.uk
- Andrea Watkins Andrea.watkins@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Teitl y Swydd
- Cydlynu Arholiadau ac Asesu - bydd hyn yn cwmpasu'r holl raglenni, gan gynnwys partneriaethau cydweithredol.
- Adborth Asesu ac Arholiadau a Marciau – Sicrhau y cofnodir yr holl farciau'n gywir ar y system, ac y rhoddir adborth yn brydlon yn unol ag arweiniad/polisi'r Brifysgol er mwyn sicrhau y darperir penderfyniadau cywir a phrydlon ynghylch dilyniant neu ddyfarniadau i fyfyrwyr.
- Grade
- Arholiadau ac Asesu, Cynllunio a Rheoli - Cefnogi'r gwaith o drefnu
- proses arholiadau'r Brifysgol ar gyfer yr holl arholiadau ac asesiadau, gan oruchwylio casglu a dosbarthu papurau a sgriptiau arholiad yn ddiogel
- Cyflwyno Arholiadau ac Asesu - Cynorthwyo wrth sicrhau bod holl leoliadau'r arholiadau wedi'u trefnu, eu gosod ac yn cynnwys yr adnoddau priodol a bod papurau ac adnoddau digidol yn cael eu rheoli'n briodol.
- Campws Singleton, Abertawe
- Graddio, Cynllunio a Rheoli - Cefnogi gyda'r gwaith o gynllunio Cynulliadau Graddio a Gwobrwyo'r Brifysgol ar gyfer yr holl ddyfarniadau a chanlyniadau.
- Tystysgrifau - Cefnogi gyda'r gwaith o gynhyrchu a chyhoeddi holl dystysgrifau a thrawsgrifiadau'r Brifysgol ar gyfer yr holl fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr.
- Lefel Iaith Gymraeg
Lefel 1 – 'ychydig’.
Bydd y rôl hon yn addas i ymgeiswyr sydd â phrofiad sylweddol o weithio ym myd addysg ym maes asesu, arholiadau a dyfarniadau/dilyniant myfyrwyr neu sydd â sgiliau trosglwyddadwy amlwg.
Bydd yn rhaid i ddeiliad y swydd fod yn drefnus iawn, yn rhagweithiol, meddu ar lygad craff am fanylion a gallu gweithio i derfynau amser tynn dan bwysau, gan ragweld problemau a allai godi.
Bydd y rôl yn cynnwys gweithio'n agos gyda staff academaidd o raglenni astudio penodol, neu gefnogi swyddogaeth benodol ar draws yr holl Dîm Asesu a Chanlyniadau, felly mae'r gallu i feithrin perthnasoedd gweithio effeithiol a datblygu dealltwriaeth o raglenni a rheoliadau academaidd yn hanfodol.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Lawrlwytho Llynfryn Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr