- Rhif y Swydd
- SU01407
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £34,132 i £38,249 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Bywyd Myfyriwr
- Lleoliad
- Singleton neu Gampws y Bae, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 22 Maw 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 31 Maw 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Nicola Billingham n.a.billingham@swansea.ac.uk
- Cheryl Pierce c.a.pierce@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Cynnig apwyntiadau i fyfyrwyr yr effeithiwyd arnynt gan drais a cham-drin, gan ddarparu cefnogaeth ymarferol, canllawiau a lliniaru risg o ansawdd uchel i ddiogelu pob parti, gan ddefnyddio dull sy'n cael ei lywio gan drawma. Bydd hyn yn cynnwys pob myfyriwr sydd wedi hunangyfeirio neu wedi cael ei gyfeirio at y gwasanaeth fel pryder sylweddol, yn y sefydliad neu o'r tu allan iddo.
Mae ymgynghorwyr yn cynnig cymorth ac arweiniad ymarferol i fyfyrwyr ynghylch cofnodi datgeliad cychwynnol, eu cyfeirio at gymorth arbenigol ac archwilio opsiynau adrodd. Yn ogystal, cynorthwyo myfyrwyr i ddeall sut y gall y Brifysgol eu cynorthwyo gydag unrhyw anghenion ymarferol, ariannol ac academaidd a chynghori ar unrhyw bryderon diogelu posibl y gallai fod angen mynd i'r afael â nhw.
Mae disgwyl i'r Ymgynghorydd Diogelu ac Ymateb i Ddatgeliadau rannu gwybodaeth pan fo angen i reoli risg, a diogelu myfyrwyr, staff a'r gymuned ehangach. Bydd hyn yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth â staff y tu mewn a'r tu allan i'r sefydliad, a fydd yn cynnwys gwneud atgyfeiriadau diogelu a mynychu cyfarfodydd amlasiantaeth ac amlddisgyblaeth, rheoli datgeliadau a sicrhau bod y camau priodol yn cael eu cymryd i ddiogelu ein myfyrwyr ac eraill a allai fod yn agored i niwed neu mewn perygl o niwed difrifol.
Adolygu atgyfeiriadau a dderbyniwyd o dan y Polisi Cymorth i Astudio - Gweithdrefn Cymorth i Astudio - Prifysgol Abertawe a phenderfynu ar y camau mwyaf priodol ar sail asesiad risg. Mynychu Paneli Cymorth i Astudio a darparu arbenigedd proffesiynol ar eu cyfer.
Rheoli a chydlynu eich llwyth achosion eich hun, gan sicrhau ymateb priodol a chymesur yn unol â pholisïau'r Brifysgol, yn enwedig y polisi Trais a Cham-drin a'r polisi Diogelu.
Cynnal cofnodion rheoli achosion cywir a chyfredol gan gynnwys asesiadau risg ac anghenion a chynlluniau cymorth/rhesymeg dros wneud penderfyniadau.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Llynfryn Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr