Cynorthwy-ydd Ymchwil: Cynhyrchu Rhwyllau ar gyfer Efelychu CFD Manwl Gywir
- Rhif y Swydd
- SU01567
- Math o Gytundeb
- Cyfnod Penodol
- Cyflog
- £34,132 i £38,249 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
- Lleoliad
- Campws y Bae, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 8 Gorff 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 16 Gorff 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Oubay Hassan O.Hassan@swansea.ac.uk
- Ruben Sevilla R.Sevilla@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Rydym yn recriwtio Cynorthwy-ydd Ymchwil i gyfrannu at efelychu aerodynamig uwch drwy grant rhaglen EPSRC REMODEL, sy'n canolbwyntio ar alluogi llifoedd gwaith CFD manwl gywir ar raddfa ddiwydiannol. Gan weithio ym Mhrifysgol Abertawe, byddwch yn gweithio ar ddadansoddi llifoedd dros geometregau cymhleth, gyda phwyslais penodol ar gydraniad haen ffin gywir, nodweddion ar amryw o raddfeydd a threfn cyflymder uchel sy'n berthnasol i gymwysiadau yn y byd go iawn.
Bydd y rôl yn cynnwys cymhwyso methodolegau CFD i herio problemau, gan gynhyrchu a dadansoddi efelychiadau o ansawdd uchel ar gyfer cyfluniadau peirianneg realistig. Bydd y prif ffocws ar gyflawni cynrychioliadau haen ffin cadarn gan ddefnyddio ymagweddau rhwyllau strwythuredig a hybrid gyda choethder o ran geometreg.
Byddwch yn cyfrannu at ddatblygu a gwella fframwaith cynhyrchu rhwyllau perfformiad uchel presennol, y mae fersiynau ohono'n cael eu defnyddio mewn amgylchoedd diwydiannol, gan gynnwys Airbus Defence and Space a HPC Singapore. Bydd hyn yn cynnwys dylunio a gweithredu galluoedd newydd ar gyfer cynhyrchu rhwyllau anstrwythuredig a hybrid, adeiladu haen ffin a dosbarthiadau annibynnol yn cydymffurfio â geometreg. Bydd cyfran sylweddol o'r gwaith yn cynnwys datblygu ac ehangu meddalwedd rhwyllau, gyda phwyslais cryf ar gadernid, graddiadwyedd a pherfformiad cymwysiadau HPC.
Byddwch yn cydweithio'n agos â phartneriaid ar draws y consortiwm REMODEL i sicrhau'r gallu i ryngweithredu â thechnolegau datryswr a'u cynnwys mewn llifoedd gwaith HPC graddadwy. Mae'r rôl hefyd yn cynnwys cyfrannu at gyhoeddiadau a adolygwyd gan gymheiriaid a chefnogi trosi datblygiadau ymchwil yn allu efelychu ymarferol.
Yn Abertawe, byddwch yn ymuno â grŵp sy'n canolbwyntio ar dechnoleg a gwaith ymchwil gyda chryfderau mewn CFD, rhwyllau a chyfrifiadura perfformiad uchel. Bydd gennych fynediad at adnoddau HPC modern, arferion datblygu sefydledig a chyfleoedd i gyfrannu at feddalwedd a ddefnyddir ar draws sawl sefydliad.
Dylai ymgeiswyr ddangos profiad o ddefnyddio rhaglennu paralel (MPI/OpenMP), ynghyd â sgiliau peirianneg Fortran neu C++. Byddai profiad blaenorol o gynhyrchu rhwyllau, addasrwydd rhwyll neu geometreg gyfrifiadol yn fanteisiol. Byddai profiad o ddynameg hylifau gyfrifiadol, yn enwedig mewn cymwysiadau aerodynamig yn fanteisiol. Gweler y disgrifiad swydd am ragor o fanylion.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad swydd Lawrlwytho FSE-Candidate-Brochure-(CY).pdf Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr