- Rhif y Swydd
- SU01574
- Math o Gytundeb
- Parhaol
- Cyflog
- £25,107 i £26,093 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyllid
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 25 Mai 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 9 Meh 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Angharad Marshall-Smith a.marshall-smith@swansea.ac.uk
- Richard Milligan r.p.milligan@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Dyma gyfle i gefnogi Cyfadrannau gyda'u trafodion ariannol a'u pryniannau, gan weithio fel rhan o'r tîm Gwasanaethau Caffael ehangach. Nod y tîm yw sicrhau ein bod yn darparu darpariaeth gwasanaeth effeithiol ac effeithlon gan ganolbwyntio ar welliant parhaus a gwasanaeth cwsmeriaid.
Mae'r rôl yn helpu i sicrhau y caiff ceisiadau prynu eu trin yn brydlon ac yn effeithiol, gan ddarparu lefel uchel o wasanaeth i gwsmeriaid i randdeiliaid mewnol ac allanol. Mae'r gweithgareddau penodol yn cynnwys prosesu gofynion prynu a thrafodion cardiau talu, hawliadau treuliau staff/myfyrwyr, rheoli ymholiadau sy'n ymwneud ag archebion/anfonebau a chefnogi gwaith cau tasgau i gynorthwyo cydweithwyr Cyllid gyda gweithgareddau diwedd mis a diwedd y flwyddyn.
Mae'r rôl hefyd yn cynnwys darparu cyngor ar bolisïau'r Brifysgol a phrosesau ariannol mewnol perthnasol gan gadw cofnodion priodol at ddibenion archwilio. Yn y lle cyntaf, bydd y rôl yn canolbwyntio ar gefnogi gweithgarwch trafodiadol ar gyfer Cyfadrannau, a cheir cyfle i gydweithio â'r tîm ehangach ar weithgareddau eraill yn ôl yr angen.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Llynfryn Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr