GAIR O GROESO, GAN GYFARWYDDWR/PENNAETH Y COLEG
Mae'r Coleg ym Mhrifysgol Abertawe, yn cynnig llwybrau academaidd ym Mhrifysgol Abertawe sy'n arwain at raddau israddedig ac ôl-raddedig. Mae'r ymagwedd unigryw hon at addysg yn trawsnewid myfyrwyr rhyngwladol yn raddedigion Prifysgol Abertawe ac yn ddysgwyr gydol oes.
O'r broses cyflwyno cais hyd at gofrestru, matriciwleiddio, addysgu ac asesu, byddwch yn derbyn gwasanaeth o'r radd flaenaf. Caiff ein cyrsiau arloesol eu cyflwyno gan athrawon cymwys iawn mewn amgylchedd modern a deinamig, gyda chymorth ein tîm gweinyddol proffesiynol.
Disgwylir i chi weithio'n galed ond bydd hen ddigon o gyfle i chi fwynhau eich astudiaethau a'r gweithgareddau cymdeithasol niferus sydd ar gael yn Abertawe a'r ardal gyffiniol.
Bydd rhyngweithio parhaus â'n hathrawon a'n staff cefnogi, eich cymheiriaid a rhwydwaith cynyddol o gysylltiadau yn cwblhau eich profiad dysgu ac yn cyfrannu at eich llwyddiant.
Rydym yn falch o'r adolygiadau blynyddol sy'n gadarnhaol yn gyson gan Asiantaeth Sicrhau Ansawdd y DU, y gwnaeth yr un diweddaraf ohonynt nodi'r ymarfer da canlynol:
- Mae'r cymorth hyblyg, ymatebol a hygyrch i fyfyrwyr yn adlewyrchu angen y myfyrwyr.
- Y gefnogaeth i staff a'r brwdfrydedd o ran cymryd cyfleoedd datblygu staff mewn ymateb i COVID-19 i wella dysgu ac addysgu ar-lein.
Rydym yn canmol eich penderfyniad i ymuno â'r Coleg wrth i chi ddechrau ar y cam pwysicaf yn eich bywyd, ac edrychwn ymlaen at gwrdd â chi a'ch cefnogi ar eich taith tuag at ennill gradd o Brifysgol Abertawe a pharatoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.
Cofion gorau,
Sharon Davies-Smith
Cyfarwyddwr/Pennaeth y Coleg