Sharon Davies-Smith

Cyfarwyddwr/Pennaeth y Coleg

Sharon Davies-Smith Cyfarwyddwr/Pennaeth y Coleg

GAIR O GROESO, GAN GYFARWYDDWR/PENNAETH Y COLEG

Mae'r Coleg ym Mhrifysgol Abertawe, yn cynnig llwybrau academaidd ym Mhrifysgol Abertawe sy'n arwain at raddau israddedig ac ôl-raddedig. Mae'r ymagwedd unigryw hon at addysg yn trawsnewid myfyrwyr rhyngwladol yn raddedigion Prifysgol Abertawe ac yn ddysgwyr gydol oes.

O'r broses cyflwyno cais hyd at gofrestru, matriciwleiddio, addysgu ac asesu, byddwch yn derbyn gwasanaeth o'r radd flaenaf. Caiff ein cyrsiau arloesol eu cyflwyno gan athrawon cymwys iawn mewn amgylchedd modern a deinamig, gyda chymorth ein tîm gweinyddol proffesiynol.

Disgwylir i chi weithio'n galed ond bydd hen ddigon o gyfle i chi fwynhau eich astudiaethau a'r gweithgareddau cymdeithasol niferus sydd ar gael yn Abertawe a'r ardal gyffiniol.

Bydd rhyngweithio parhaus â'n hathrawon a'n staff cefnogi, eich cymheiriaid a rhwydwaith cynyddol o gysylltiadau yn cwblhau eich profiad dysgu ac yn cyfrannu at eich llwyddiant.

Rydym yn falch o'r adolygiadau blynyddol sy'n gadarnhaol yn gyson gan Asiantaeth Sicrhau Ansawdd y DU, y gwnaeth yr un diweddaraf ohonynt nodi'r ymarfer da canlynol:

  • Mae'r cymorth hyblyg, ymatebol a hygyrch i fyfyrwyr yn adlewyrchu angen y myfyrwyr.
  • Y gefnogaeth i staff a'r brwdfrydedd o ran cymryd cyfleoedd datblygu staff mewn ymateb i COVID-19 i wella dysgu ac addysgu ar-lein.

Rydym yn canmol eich penderfyniad i ymuno â'r Coleg wrth i chi ddechrau ar y cam pwysicaf yn eich bywyd, ac edrychwn ymlaen at gwrdd â chi a'ch cefnogi ar eich taith tuag at ennill gradd o Brifysgol Abertawe a pharatoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.

​Cofion gorau,

Sharon Davies-Smith
Cyfarwyddwr/Pennaeth y Coleg

GWYBODAETH DARPARWYR

Mae 'Y Coleg, Prifysgol Abertawe', yn fenter ar y cyd rhwng Prifysgol Abertawe a Navitas, a lansiwyd ar 28 Chwefror 2018. Dyma olynydd  coleg ymgorfforedig Prifysgol Abertawe, a elwid yn y gorffennol yn Goleg Rhyngwladol Cymru, Abertawe (ICWS).

Caiff myfyrwyr sydd wedi cofrestru gydag ICWS ar 28 Chwefror 2018 eu trosglwyddo i'r Coleg, Prifysgol Abertawe, ac yn dibynnu ar gynnydd boddhaol, byddant yn parhau ar yr un llwybr gradd ag ar adeg cofrestru.

Mae swyddfeydd gweinyddol 'Y Coleg, Prifysgol Abertawe',  ar Gampws y Bae ym Mhrifysgol Abertawe. Fodd bynnag, caiff myfyrwyr eu haddysgu ym Mharc Singleton ac ar Gampws y Bae, gan ddibynnu ar eu rhaglen astudio.

Y Coleg, Prifysgol Abertawe yw enw masnachu SwaN Global Education LLP, partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, rhif y cwmni OC418307, â chyfeiriad cofrestredig Littlemore Park, Armstrong Road, Rhydychen, Swydd Rydychen, OX4 4FY.

Rydym yn eich annog i ddarllen ein Hadolygiad Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA) diweddaraf gan Asiantaeth Sicrhau Ansawdd y DU i gael gwybod mwy am sut rydym ni'n cynnig profiad academaidd rhagorol. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein Cynllun Gweithredu QAA i weld sut rydym ni'n datblygu ar sail yr adolygiad diweddaraf ac yn gwella'r hyn a wnawn yn barhaus.