GWNEWCH GAIS I FYW AR GAMPWS Y BAE

Fel myfyriwr yn Y Coleg, Prifysgol Abertawe, estynnir gwahoddiad i chi ymgartrefu ar Gampws y Bae. Mae Campws y Bae yn cynnig llety diogel a chyfleus ar eich cyfer yn ystod eich amser yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe, gydag ystafelloedd astudio ensuite sy'n agos iawn i adeilad academaidd y Coleg wrth gerdded. Gwnewch gais i fyw ar Gampws y Bae yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf nawr.

Mae Y Coleg, ar y cyd â Gwasanaethau Preswyl Prifysgol Abertawe, yn croesawu eich cais am y flwyddyn academaidd nesaf. Rydym yn gweithio ar y cyd i ddarparu proses wedi'i symleiddio i fyfyrwyr sy'n astudio yn Y Coleg.

Mathau o ystafell

Ffïoedd y Neuadd a Dyddiadau Contract

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ffïoedd a sut i'w talu, ewch i dudalennau gwybodaeth am Lety Prifysgol Abertawe.

I bob myfyriwr

  • Mae Blaendal Archebu o flaen llawn o £100.00 yn daladwy ar dderbyn eich cynnig am lety a gofynnwn i chi dalu hyn drwy'r Cyfrif Llety er mwyn cadw eich ystafell.
  • Mae gennych chi 3 niwrnod o'r cynnig i dderbyn a thalu'r Blaendal Archebu o flaen llaw.
  • Yn anffodus, ni allwn gadw llety ar eich cyfer heb dderbyn y Blaendal Archebu o flaen llaw, ac ni fydd hyn yn cael ei ad-dalu os nad ydych chi'n symud i mewn i’ch llety.

Caiff prisoedd eu dangos yn wythnosol er cymhariaeth. Fodd bynnag, caiff myfyrwyr gynnig contract am hyd eu cwrs, gan gynnwys gweithgareddau sefydlu. Dangosir hyd contractau isod:

2023-24 Opsiynau Contract – Campws y Bae

En-suite safonol: £177 yr wythnos

En suite premiwm : £183 yr wythnos

* - Sylwer bod y dyddiadau a hyd contractau hyn yn gallu newid ac ni all Y Coleg fod yn atebol am gostau teithio a geir pan fyddwch chi'n dibynnu ar y dyddiadau hyn.

Ystafell safonol en-suite Ystafell En-suite Premiwm Nodweddion Cymunedol

CROESO I NEUADD ROD JONES

GWYBODAETH YCHWANEGOL

Pan fyddwch chi'n barod, crëwch gyfrif llety a dilynwch y cyfarwyddiadau ar bob cam

Gallwch fewngofnodi eto i'ch cyfrif llety a newid eich dewisiadau unrhyw bryd

Ni fydd diweddaru eich dewis yn effeithio ar y dyddiad pan wnaethoch eich cais cyntaf.

Ni chaiff cynigion llety eu rhoi nes bod gan yr ymgeisydd lythyr cynnig Diamod gan Y Coleg neu Brifysgol Abertawe

Os ydych chi am dderbyn y cynnig am lety bryd hynny, gofynnir i chi gytuno i denantiaeth a thalu blaendal cadw lle.

Os oes gennych chi gwestiynau am eich cais neu am sut i wneud cais, cysylltwch â'r tîm drwy e-bostio accommodation@abertawe.ac.uk