Llwybr Cyfrifeg a Chyllid
O ble rydych chi'n dod yn wreiddiol? Bahrain
Beth byddwch chi'n ei astudio ym Mhrifysgol Abertawe? BSc (Anrhydedd) Cyfrifeg a Chyllid
Pam wnaethoch chi ddewis astudio yn Abertawe?
Ar wahân i'r addysg o'r radd flaenaf a gynigir ym Mhrifysgol Abertawe, fy hoff beth yw gallu cwrdd â phobl newydd a dysgu am ddiwylliannau gwahanol.
Hoff beth am astudio yn y Coleg/Abertawe?
Mae dosbarthiadau llai a llawer o ryngweithio â myfyrwyr eraill a staff wedi fy helpu i ennill gradd Dosbarth Cyntaf.
Pa gyngor byddech chi'n ei roi i fyfyrwyr newydd sy'n dod i Abertawe/y DU?
Mae llawer o bethau i roi cynnig arnynt yn Abertawe felly achubwch ar y cyfle.
Y peth gorau am Abertawe? Y bywyd nos!
Llwybr Gwyddoniaeth
O ble rydych chi'n dod yn wreiddiol? India
Beth byddwch chi'n ei astudio ym Mhrifysgol Abertawe? BSc (Anrhydedd) Sŵoleg
Pam wnaethoch chi ddewis astudio yn Abertawe?
Pan ddechreuodd y broses gwneud cais, dechreuais i wneud llawer o ymchwil a'r lle hwn sy'n cynnig popeth; tywydd gwych, traethau a phrifysgol wych.
Hoff beth am astudio yn y Coleg/Abertawe?
Staff cyfeillgar a chymwynasgar a ffordd fodern ond traddodiadol o addysgu.
Pa gyngor byddech chi'n ei roi i fyfyrwyr newydd sy'n dod i Abertawe/y DU?
Pan fyddwch yn cyrraedd, mae'r Coleg yn trefnu popeth. Mae'n lle diogel iawn i fyw ynddo, ac mae'r gost o fyw llawer yn is nac mewn gwledydd eraill felly gallwch chi arbed llawer o arian.
Disgrifiwch Abertawe mewn pum gair. Cartref oddi cartref go iawn!
Y peth gorau am Abertawe?
Doeddwn i byth yn meddwl y byddwn i'n syrthio mewn cariad â'r lle hwn a theimlo fel hyn am fy astudiaethau. Rwy’n ysu am barhau ar y daith hon nes graddio gyda'r ffrindiau gwych rwyf wedi cwrdd â nhw ar hyd y daith. Mae fy athrawon mor wych ac yn amyneddgar iawn gyda ni. Diolch yn fawr iawn i bawb.
Llwybr Rheoli Busnes ac Economeg
O ble rydych chi'n dod yn wreiddiol? Mecsico
Beth byddwch chi'n ei astudio ym Mhrifysgol Abertawe? BSc Rheoli Busnes (Marchnata).
Cynlluniau ar gyfer y dyfodol? Bod yn Brif-olygydd Vogue neu Elle America Ladin a meddu ar fy llinell bersonol o ddillad.
Hoff beth am astudio yn y Coleg/Abertawe? Rwy'n dwlu ar y staff. Maent yn bobl gefnogol a charedig iawn.
Y peth gorau am Abertawe? Mae'r marina yn lle diogel a hyfryd i fyw, gyda phobl hyfryd!