Sut Gwnaethom Profi Canvas
Cafodd sampl o dudalennau o system rheoli dysgu Canvas (canvas.swan.ac.uk) eu harchwilio. Dewiswyd y tudalennau er mwyn ceisio efelychu defnydd myfyriwr nodweddiadol o'r platfform dysgu. Myfyrwyr yw'r grŵp mwyaf sy'n defnyddio'r system hon, felly roedd eu profiadau'n hollbwysig.
Roedd profiadau'r defnyddiwr yn ymdrin â meysydd allweddol, gan gynnwys gwe-lywio, canfod cynnwys ac ymwneud ag ef, rhyngweithiadau ac adfer gwallau.
Roedd y sampl o dudalennau'n cynnwys:
- Dangosfwrdd
- Tudalen Calendr
- Mewnflwch
- Tudalen Lanio Cwrs
- Tudalen Modiwlau
- Adran Wythnos Cynnwys Modiwl, gan gynnwys:
- Ffeil PDF wedi'i mewnblannu
- Ffeil PowerPoint wedi'i mewnblannu
- Tudalennau Cynnwys Canvas
- Adran Groeso Cynnwys Modiwl, gan gynnwys:
- Tudalen Gwybodaeth am Hyfforddwr
- Llawlyfr wedi'i fewnblannu ar ffurf ffeil Word
- Tudalen Cyhoeddiadau
- Tudalen Cwisiau a Phrofion
- Tudalen Aseiniadau Turnitin
- Tudalen fideo a recordio darlithoedd Panopto
Mae'r archwiliad mewnol ar sampl o dudalennau wedi cynnwys y broses ganlynol:
- Adolygiad â llaw yn seiliedig ar feini prawf A/AA WCAG (Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We)
- Adolygiad â llaw gan ddefnyddio rhaglenni darllen sgriniau NVDA, VoiceOver a Talkback i archwilio meysydd gwe-lywio, rhyngweithio, cyfyngiadau amser ac adfer gwallau.
Cynhaliwyd y broses archwilio gan ein harbenigwr defnyddioldeb mewnol am nad oes gennym adnodd hygyrchedd penodedig. Penderfynwyd ar yr ymagwedd hon ar sail maint y wefan, yr amser, yr adnoddau a’r cyllid a oedd ar gael i’r sefydliad ar y pryd.
Mae ein hadroddiad am hygyrchedd mewnol ar gael ar gais.
Mae hyn yn ogystal ag Adroddiad WCAG am Hygyrchedd Canvas sy'n crynhoi cydymffurfiaeth y cymhwysiad o ran hygyrchedd ac a luniwyd gan drydydd parti arbenigol, webaim.org.