Darparu Wybodaeth a’r Sgiliau

Yn Abertawe, ein nod yw paratoi myfyrwyr ar gyfer asesiadau'r SQE, a hefyd roi iddynt ddyfnder gwybodaeth a dealltwriaeth a'r sgiliau angenrheidiol ar gyfer gyrfa lwyddiannus mewn ymarfer cyfreithiol. Bydd ymgeiswyr SQE yn cystadlu yn erbyn ei gilydd yn y farchnad gyflogaeth ac yn erbyn ymgeiswyr sydd ag LPC cydnabyddedig. Bydd y cyrsiau rydym wedi'u datblygu i helpu myfyrwyr i baratoi ar gyfer yr SQE yn rhoi iddynt gymhwyster ar lefel Meistr a fydd yn cael eu cydnabod gan ddarpar gyflogwyr a'u gosod ar sail gyfatebol â myfyrwyr sy'n ceisio cymhwyso drwy'r LPC.

Ar gyfer graddedigion y gyfraith, mae gennym yr LLM Ymarfer Cyfreithiol Proffesiynol. Mae'r LLM yn rhaglen Meistr sy'n para blwyddyn, sydd wedi'i chreu i helpu myfyrwyr i baratoi ar gyfer asesiadau SQE1 a SQE2. Mae Rhan 1 o'r cwrs yn canolbwyntio ar wybodaeth a dealltwriaeth graidd sy'n cael eu hasesu drwy SQE1, ac mae Rhan 2 o'r cwrs yn rhoi hyfforddiant dwys i fyfyrwyr ar y sgiliau cyfreithiol ymarferol sy'n cael eu hasesu drwy SQE2.

Ar gyfer graddedigion nad ydynt yn meddu ar radd yn y gyfraith, mae gennym y cwrs LLM yn y Gyfraith ac Ymarfer Cyfreithiol. Mae'r LLM yn rhaglen Meistr sy'n para deunaw mis sydd wedi'i chreu i helpu myfyrwyr sydd heb brofiad blaenorol o astudio'r gyfraith i baratoi ar gyfer asesiadau SQE1.  Mae blwyddyn gyntaf y cwrs yn canolbwyntio ar sylfeini'r gyfraith sy'n sail i asesiadau SQE1, ac mae ail ran y cwrs yn meithrin gwybodaeth a sgiliau'r myfyrwyr yng nghyd-destun y meysydd ymarfer craidd.

A group of people having a meeting