student

Mae rhaglen sgiliau Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe'n helpu myfyrwyr i ddatblygu ystod o sgiliau gan gynnwys sgiliau eiriolaeth apeliadol, cyfweld â chleientiaid, negodi a chyfryngu.

Un o'r meysydd lle nad oes cynifer o gyfleoedd i fyfyrwyr ymarfer eu sgiliau yw eirioli yn y llys: y profiad ymarferol o eiriolaeth argymell, prif holiad a chroesholi. Yn hanfodol, byddai'r rhain yn sgiliau mae disgwyl i fyfyrwyr eu defnyddio o'r diwrnod cyntaf wrth eu gwaith yn y llys.

Y gystadleuaeth flaenllaw sy'n cynnig cystadleuaeth mewn eirioli yn y llys yw Cystadleuaeth Eiriolwr y Flwyddyn BPP lle mae'n rhaid i fyfyrwyr gynnal treial troseddol a sifil, gan arddangos yr ystod o sgiliau. Yn Abertawe, yn gyntaf cafodd myfyrwyr y cyfle i gael eu clyweld drwy broses gystadleuol, gydag Eesha Boby a Taylor-May Price yn cael eu dewis fel y tîm terfynol. Yna roeddent wedi cystadlu yn y gystadleuaeth ranbarthol gyda Chaerdydd, Aberdeen a Wrecsam. Roedd yr achos, sef mater o ymosodiad troseddol, yn gofyn iddynt arddangos eu cryfderau eiriolaeth mewn nifer o ffyrdd, un o'r prif rai oedd addasu i'r ffurf ar-lein! Roeddent wedi perfformio'n ardderchog gyda Taylor-May yn cael ei dewis fel un o'r 16 o fyfyrwyr yn genedlaethol i wneud cynnydd i'r rowndiau terfynol cenedlaethol.

Elfen unigryw i'r rowndiau terfynol oedd y lleoliad oherwydd cynhaliwyd y rownd derfynol yn yr Old Bailey, lle'r oedd gofyn i Taylor-May, a'i phartner a ddewiswyd ar hap, gynnal treial troseddol a sifil, ond y tro hwn, cynnal Cynhadledd, eiriolaeth argymell, prif holiad a chroesholi. Roedd yn ddiwrnod hir a blinedig, ond yn un a oedd wedi cadarnhau ei phenderfyniad i ddilyn gyrfa yn y Bar. Roedd hi'n ddiolchgar iawn am yr adborth a gafodd - llongyfarchiadau ar berfformiad ardderchog.

Rhannu'r stori