Delwedd o bedwar myfyriwr sy'n cystadlu

Ers i'r Rhaglen Sgiliau Cyfathrebu ddechrau yn 2018, mae Abertawe wedi bod yn cymryd rhan gyson yng Nghystadleuaeth Cyfweld â Chleientiaid Cymru a Lloegr ac wedi ennill canmoliaeth arbennig gan gynnwys ennill y gystadleuaeth yn 2024, ac yn y blynyddoedd blaenorol, wedi cyrraedd yr 2il a'r 4ydd safle.

Eleni, cafwyd mwy o lwyddiant wrth i Jessica Davies ac Eesha Boby, myfyrwyr ail flwyddyn, gyrraedd y 3ydd safle yn y Gystadleuaeth Genedlaethol, a chynrychioli Cymru yng Nghystadleuaeth Ymgynghori â Chleientiaid Rhyngwladol 2026, a gynhaliwyd gan Zagreb ym mis Ebrill. 

Mae'r gystadleuaeth yn canolbwyntio ar sgiìl cyfweliad cychwynnol cyfreithiwr, gyda'r myfyrwyr yn cael gwybodaeth gyfyngedig - dim ond maes pwnc cyffredinol (eleni 'Defnydd tir') a memo byr iawn i’w helpu nhw i baratoi. Mae'n profi galluoedd myfyrwyr i ymgysylltu â chleientiaid a datblygu'r berthynas hanfodol honno a fydd yn aml yn rhagflaenu perthynas hirdymor rhwng cyfreithiwr a chleient, yn ogystal â chynnal yr ymddiriedaeth honno wrth archwilio cefndir y sefyllfa a rhoi cyngor priodol. 

I fyfyrwyr Abertawe, dechreuodd y daith gyda'n hyfforddiant mewnol, gan gynnwys sgwrs gan Tomos Davies o gwmni Cyfreithwyr JCP o Gaerfyrddin, cefnogwyr y gystadleuaeth hon. Roedd y gystadleuaeth fewnol yn cynnwys 2 rownd ragbrofol gyda'r 4 sgoriwr gorau yn cystadlu yn y rownd derfynol, wedi'u beirniadu gan Richard Howells, partner o gwmni Cyfriethwyr JCP. Enillwyr y rownd derfynol oedd Jessica ac Eesha, gan guro Soffia Cynwyl ac Aimee McCullagh o drwch blewyn a ddaeth yn ail. 

Gwnaeth hyn arwain at y rownd ranbarthol - lle cyflwynwyd dwy sefyllfa heriol yn cynnwys anghydfod â chymydog gelyniaethus ac anghydfod ynghylch Gorchymyn Cadw Coed. Dangosodd Jessica ac Eesha, a oedd yn cystadlu yn y gystadleuaeth ranbarthol ar-lein, gysondeb gwych a chyrraedd y Pencampwriaethau Cenedlaethol ynghyd ag un ar ddeg o dimau eraill o bob cwr o Loegr a Chymru. 

Cynhaliwyd y Pencampwriaethau Cenedlaethol ym Mhrifysgol St Mary’s, Twickenham ar eu campws hardd. Roedd y Pencampwriaethau Cenedlaethol yn cynnwys tair rownd, pob un yn heriol, gan gynnwys meddiant gwrthgefn, difrod posibl i dir, a sefyllfa gwersylla heriol, a fyddai wedi gwneud i bob trefnydd digwyddiad gofio amgylchiadau tebyg! Fe wnaeth Jessica ac Eesha ymdopi'n wych wrth iddynt gystadlu yn erbyn myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig a gorffen, unwaith eto gyda chysondeb eithriadol, yn y 3ydd safle. Fel y tîm Cymreig â'r sgôr uchaf, fe wnaethon nhw hefyd gymhwyso ar gyfer y gystadleuaeth Ryngwladol.  

Oherwydd trafferthion o ran materion amseru, yn anffodus doedd Eesha ddim yn gallu mynd i'r cystadlaethau Rhyngwladol, felly fe wnaeth Soffia achub y dydd ar fyr rybudd. Gan gystadlu yn erbyn timau o bob cwr o'r byd, derbyniodd Soffia a Jessica ganmoliaeth uchel gan y beirniaid ond mewn cystadleuaeth o safon eithriadol o uchel, ni wnaethant gyrraedd y rownd gynderfynol. Serch hynny, fel y tîm ieuengaf yno (mewn rhai achosion o tua 30 mlynedd!) fe ddangoson nhw sgiliau cyfathrebu eithriadol. Llongyfarchiadau enfawr i'r tair ohonynt am eu perfformiadau, a diolch i Dr Lowri Davies am hyfforddi'r tîm yn Zagreb. 

Rhannu'r stori