Ddydd Mercher 6 Mai, cyhoeddodd Swyddfa Gwyddoniaeth a Thechnoleg Senedd y DU adroddiad newydd ynghylch eithafiaeth ar-lein, sy’n dyfynnu gwaith gan aelodau o CYTREC, yr Athro Stuart Macdonald, Dr Lella Nouri, Amy-Louise Watkin a J M Berger.
Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar sut mae eithafiaeth yn ymddangos ar-lein, canlyniadau a dylanwadau cysylltiad â chynnwys eithafol a strategaethau i’w wrthsefyll. Mae’n dadansoddi’r cynigion i fynd i’r afael ag eithafiaeth a gyflwynwyd yn y Papur Gwyn, Online Harms, y cwestiwn pwy sy’n gyfrifol am reoleiddio’r rhyngrwyd a’r materion ynghylch dileu cynnwys.
Mae’r ymchwil gan aelodau o CYTREC a ddyfynnwyd yn cynnwys trafodaeth am sut gall cysylltiad ag eithafiaeth annog radicaleiddio, lledaeniad cynnwys eithafol, ymlediad propaganda, gwadu platfform, atal safbwyntiau eithafol a niweidiol rhag cael eu normaleiddio a sut gall gwahardd defnyddwyr o gyfryngau prif ffrwd eu gwthio tuag at gyfryngau ar yr ymylon.
Mae’r Ganolfan Ymchwil i Seiberfygythiadau (CYTREC) ym Mhrifysgol Abertawe’n archwilio amrywiaeth o fygythiadau ar-lein. Mae’r ganolfan ryngddisgyblaethol yn dod ag arbenigwyr ynghyd o feysydd troseddeg, y gyfraith, gwyddor wleidyddol, ieithyddiaeth a seicoleg â’r nod o ddeall bygythiadau ar-lein yn well, creu ymchwil wreiddiol ac empirig newydd a llywio polisi ac ymarfer.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan CYTREC.