Photo of Hillary Rodham Clinton and Scholarship Information.

Mae cyn-Ysgrifennydd Gwladol yr UD, Hillary Rodham Clinton, wedi cyhoeddi bod y broses ymgeisio am ail garfan Ysgoloriaeth Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton bellach ar agor.

Gwnaeth yr Ysgrifennydd Clinton y cyhoeddiad yn ystod Darlith Goffa James Callaghan, a gafodd ei darlledu fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant Prifysgol Abertawe, ddydd Iau, 16 Gorffennaf.

“Mae’n rhaid i mi ddweud mor falch ydw i o’n deiliaid Ysgoloriaeth y Rhaglen Heriau Byd-eang” meddai’r Ysgrifennydd Clinton.

“Mae’n anodd credu bod y rhaglen hon, sy’n cael ei chefnogi gan Sky a’i haddysgu gan Ysgol y Gyfraith dan arweiniad y Deon, Elwen Evans, eisoes yn nesáu at ddiwedd ei blwyddyn gyntaf.

“Yn wir, mae’n bleser gennyf gyhoeddi heddiw ein bod bellach yn gwahodd ceisiadau am ail flwyddyn y rhaglen. Mae’r wefan i gyflwyno ceisiadau ar agor heddiw a gobeithio y bydd llawer ohonoch chi’n cyflwyno cais neu’n rhannu’r wybodaeth â rhywun a fydd yn ymgeisio.”

Amcan Rhaglen Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton yw hwyluso cydweithredu rhyngwladol er mwyn mynd i’r afael â heriau cenedlaethol a thrawswladol brys. Mewn partneriaeth â Sky, bydd y fenter ysgoloriaeth graddedigion hon yn datblygu’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr rhagorol â meddylfryd blaengar i fynd i’r afael â phroblemau’r byd, ym meysydd ysgolheictod, gweithredu ac ymarfer cyfreithiol.

Mae’r rhaglen radd yn seiliedig ar ddysgu drwy brofiad ac mae’n cynnwys lleoliad gwaith prosiect ymchwil. Bydd myfyrwyr hefyd yn elwa o amrywiaeth o weithgareddau ychwanegol, gan gynnwys mentora, siaradwyr gwadd, ymweliadau a hyfforddiant y cyfryngau.

Yn 2019, dyfarnwyd ysgoloriaethau i bum myfyriwr sy’n astudio’r pynciau canlynol: cyfraith amgylcheddol â phwyslais penodol ar yr effaith ar fenywod a phlant; hawliau dynol a chyfraith droseddol ryngwladol; hawliau plant a diogelu plant ar-lein a therfysgaeth, radicaleiddio a seiberddiogelwch.

Ar gyfer carfan 2021, bydd ysgoloriaethau’n cael eu dyfarnu i fyfyrwyr â diddordeb yn yr heriau byd-eang canlynol:

• Anghyfiawnder Hiliol
• Niwed Ar-lein
• Newid yn yr Hinsawdd
• Hawliau Plant
• Hawliau Dynol a Thechnoleg

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus am y rhaglen Meistr hon yn derbyn ysgoloriaeth sy’n talu’r ffioedd dysgu llaw ac yn darparu grant gwerth tua £15,000.

Meddai Cyfarwyddwr y Rhaglen, Dr Osian Rees:

“Mae’n bleser mawr gennym wahodd ceisiadau ar gyfer ail flwyddyn y rhaglen.

“Mae’r flwyddyn gyntaf wedi bod yn hynod lwyddiannus. Rydym wedi bod yn ffodus i recriwtio pum myfyriwr ardderchog sydd wedi mwynhau’r amrywiaeth eang o gyfleoedd, gan gynnwys y Gyfres o Seminarau Heriau Byd-eang.

“Edrychwn ymlaen at ddethol pum unigolyn ysbrydoledig arall i ddechrau ym mis Ionawr 2021, ac at weld ein cymuned o ddeiliaid ysgoloriaeth yn parhau i ddatblygu a thyfu.”

 

Rhannu'r stori