Mae IP Wales yn sefydliad nid er elw sydd â’r nod o helpu Byrddau Cyfarwyddwyr i ddeall eu busnesau’n well, a’u diogelu rhag bygythiad cynyddol seiberdroseddu yn erbyn Eiddo Deallusol.
Mae Eiddo Deallusol yn cyfeirio at yr asedau anniriaethol sy’n deillio o greadigrwydd, gan gynnwys patentau, hawlfreintiau ac asedau digidol eraill, sy’n gallu bod yn allweddol i hunaniaeth a llwyddiant cwmni.
Er mwyn helpu cwmnïau a’u cyfarwyddwyr i ddiogelu’r asedau hyn rhag bygythiad cynyddol seiberdroseddu, mae’r Athro Cysylltiol Andrew Beale OBE o IP Wales wedi ysgrifennu papur newydd o’r enw "The importance of keeping your company's trade secrets, secret" ar y cyd â’r Bargyfreithiwr Jane Foulser McFarlane.
Mae Rheoliadau Cyfrinachau Masnach (Gorfodi, etc) 2018 yn mynnu bod rhaid i bob busnes yn y DU bellach gymryd “camau rhesymol” i ddiogelu ei gyfrinachau masnach. Gellir olrhain tarddiad rheoliadau hyn y DU i gyfreitheg yr UD yn y bôn ac mae’r papur newydd hwn yn nodi tri cham sylfaenol mae’n rhaid i Fyrddau Cyfarwyddwyr y DU eu cymryd nawr er mwyn helpu i ddiogelu cyfrinachau masnach cwmnïau:
- Nodi, labelu a gwarchod cyfrinachau masnach eich cwmni;
- Addysgu a hyfforddi eich staff am gyfrinachau masnach;
- Rheoli risgiau seiberddiogelwch eich cwmni.
Wrth i fusnesau ganolbwyntio ar oroesi effeithiau economaidd COVID-19, mae asiantaethau gorfodi’r gyfraith ledled y byd yn rhybuddio bod y seiberfygythiadau sy’n wynebu busnesau yn ystod y pandemig presennol yn parhau’n sylweddol, yn amrywiol ac yn gynyddol.
Mae’r Athro Cysylltiol Andrew Beale OBE hefyd wedi cyhoeddi erthygl blog ar y pwnc hwn ar Flog y Sefydliad Cyfraith Llongau a Masnach Ryngwladol (IISTL).
Am ragor o wybodaeth, ynghyd â nifer o ganllawiau ac erthyglau sydd â’r nod o ddiogelu eiddo deallusol, ewch i wefan IP Wales.