Mae Isabel Francis, sy’n astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe, wedi cael ei chydnabod am ei gwaith pro bono gyda Chlinig y Gyfraith y Brifysgol,  a dyfarnwyd gwobr bwysig iddi i’w hanrhydeddu – The Diana Award.

Sefydlwyd The Diana Award ym 1999 gan Lywodraeth Prydain â’r nod o barhau â gwaith y Dywysoges Diana drwy greu ffordd ffurfiol o gydnabod pobl ifanc a oedd yn rhagori ar ddisgwyliadau wrth gyfrannu at eu cymunedau lleol. Hon yw’r anrhydedd mwyaf y gall person sy’n iau na 25 oed ei dderbyn am ei weithredu cymdeithasol neu ei waith dyngarol.

Bydd Isabel nawr yn ymuno â rhestr anrhydeddus enillwyr y Diana Award, ochr yn ochr â phobl ifanc eraill o bob cwr o’r byd sydd wedi cael eu cydnabod am eu gweithredu cymdeithasol a’u gwaith dyngarol. Yn achos Isabel, roedd hyn yn cynnwys rhoi dros 750 o oriau o’i hamser i wirfoddoli yng Nghlinig y Gyfraith Abertawe, lle bu’n cynorthwyo gyda’r ymchwiliad i waed heintus (ymchwiliad annibynnol sy’n archwilio’r amgylchiadau lle cafodd cleifion eu heintio ag HIV neu hepatitis gan gynhyrchion gwaed halogedig), yn ymgymryd â gwaith allgymorth gyda Banc Bwyd Eastside, ac yn rhoi tystiolaeth am fynediad i gyfiawnder i’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn Senedd Cymru.

Mae Isabel yn gyfarwydd â llwyddiant gan iddi ennill gwobr LawWorks a’r Twrnai Cyffredinol am y cyfraniad gorau gan dîm o fyfyrwyr, ar y cyd â myfyriwr arall, Tahmid Miah, yn y Gwobrau Pro Bono Myfyrwyr y llynedd.

Meddai’r Athro Richard Owen, Cyfarwyddwr Clinig y Gyfraith Abertawe a enwebodd Isabel am y Wobr: “Mae Isabel yn haeddu’r Diana Award yn llwyr. Mae hi wedi dangos ymroddiad aruthrol i helpu’r rhai mae angen cyngor cyfreithiol arnynt, gan gynnwys gwirfoddoli yn ystod ei gwyliau ac ar ei diwrnodau bant o’r gwaith.

Mae ei chyfraniad at Glinig y Gyfraith Abertawe wedi bod yn rhagorol. Yn ogystal â helpu pobl mewn argyfwng mae hi hefyd wedi rhoi tystiolaeth i Senedd Cymru am faterion mynediad i gyfiawnder, ac wedi arwain y gwaith o sefydlu canolfannau allgymorth newydd i’r Clinig.

“Bydd enghraifft Isabel yn ysbrydoli llawer o fyfyrwyr i efelychu ei chyflawniadau”  

"Mae gwobr y Diana Award hefyd yn cynnwys gweminar gweithredu cymdeithasol lle bydd Isabel yn gallu cysylltu â derbynwyr eraill y wobr ac elwa o’r cyfle i fod yn rhan o rwydwaith o gyn-enillwyr sy’n cynnig rhaglen datblygu derbynwyr. Hefyd, mae hi wedi derbyn gwahoddiad gan yr Iarll Spencer, brawd y Dywysoges Diana, i ymweld â Thŷ Althorp, cartref plentyndod y Dywysoges Diana.

“Mae’n fraint ac yn anrhydedd mawr cael fy enwebu am y Diana Award.

“Pan ddechreuais fy ngradd yn y gyfraith, fyddwn i byth wedi breuddwydio y byddwn i’n derbyn gwobr mor bwysig ac mae’n rhagori ar fy nisgwyliadau. Dwi ddim yn gwybod lle byddwn i heb gefnogaeth Clinig y Gyfraith a gobeithio y gallaf barhau i wneud gwahaniaeth i’r rhai sydd yn yr angen mwyaf.”

I ddarllen stori gwobr Isabel: www.diana-award.org.uk/stories. 

Rhannu'r stori