Cynhaliodd y Sefydliad Cyfraith Llongau a Masnach Ryngwladol (IISTL) ei 5ed Gweminar eleni ar 12 Mai. Cadeirydd y digwyddiad oedd yr Athro Cysylltiol Leloudas a chanolbwyntiodd ar gwestiwn diddorol iawn: Sut y mae Technoleg a'r Gyfraith yn trawsnewid y Gadwyn Masnach a Chyflenwi Ryngwladol?
Roedd yr IISTL yn ffodus iawn i gael cyfranogwyr uchel eu proffil ar gyfer y digwyddiad hwn:
- Lucy England (Partner, Fox Williams LLP);
- Henk Mulder (Pennaeth, Digital Cargo - International Air Transport Association (IATA));
- Roeland van Bockel (Cydlynydd, prosiect FEDeRATED yr UE), a
- Dan Soffin (Cyfreithiwr, Atwrnai, Pennaeth: Gwasanaethau Cynghori ar Hedfan Rhyngwladol)
Rhannodd pawb eu barn am ddyfodol trafnidiaeth amlfodd mewn oes ddigidol, a phleser oedd gweld bod y digwyddiad wedi denu cynulleidfa fawr o bedwar ban byd, a chwaraeodd ran drwy gynnig cwestiynau diddorol iawn.
Ar ôl y digwyddiad, dywedodd, Dr Leloudas:
"Hoffwn ddiolch yn fawr i Lucy, Henk, Roeland a Dan am gynnig cynifer o bethau i'w trafod inni ym maes dyfodol technolegol a chyfreithiol trafnidiaeth amlfodd. Allen ni ddim fod wedi gobeithio am set well o siaradwyr ar bwnc a fydd heb os yn flaenllaw ar agenda y diwydiant trafnidiaeth ac academia yn y blynyddoedd sydd i ddod (os nad yw hynny’n wir eisoes). Roedd eu gwybodaeth a'u brwdfrydedd i rannu eu barn heb eu hail gan gyfrannu at ddigwyddiad hwyl a wnaeth brocio'r meddwl"
Cynhelir gweminar nesaf yr IISTL ar 9 Mehefin a bydd yn canolbwyntio ar y “Gwersi i'w Dysgu o'r Pandemig Byd-eang ar gyfer y Sector Llongau”.