Mae'r chwyldro mewn llongau awtonomaidd megis dechrau, ac fel bob amser mae'r Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnachu Ryngwladol (IISTL) ym Mhrifysgol Abertawe yng nghanol yr holl beth.
Mae'r IISTL yn cydweithio â chydweithwyr o'r UCL i drefnu seminar i bobl yn Llundain ar rai o'r materion cyfreithiol mwy lletchwith dan sylw. Mae aelodau'r UCL ac IISTL wedi cydweithio â grŵp clodfawr o ysgolheigion ac ymarferwyr i drafod nifer o faterion cytundebol ac atebolrwydd cyfraith breifat cymhleth sy'n gysylltiedig â'r defnydd o longau awtonomaidd yng nghyd-destun llywio, cludo nwyddau ac yswiriant morol.
Yn ogystal â'r Athrawon Baughen, Soyer a Tettenborn o'r IISTL, cyflwynodd y bobl ganlynol bapurau yn ystod y digwyddiad:
- Dr Melis Özdel, UCL
- Tom Walters, Partner, HFW
- Julian Clark, Uwch-bartner Byd-eang, Ince
- Peter McDonald Eggers CF, 7 KBW
Daeth y digwyddiad, a werthodd bob tocyn wythnosau ymlaen llaw, i ben gydag araith gyweirnod gan Syr Richard Aikens (Brick Court Chambers), yn farnwr gynt yn y Llys Apêl. Mae IISTL ac UCL yn bwriadu cynnal seminar arall yn hwyrach yn y gwanwyn, y tro hwn yn ystyried materion rheoleiddio a chyfraith gyhoeddus sy'n deillio o longau awtonomaidd.