Mae’r Sefydliad Cyfraith Llongau a Masnach Ryngwladol wedi cael dechrau gwych i’r flwyddyn eleni, gan gyflwyno ei ail weminar o 2021 ar y pwnc “Technoleg Cyfriflyfr Dosbarthedig a Blockchain mewn Cyfraith Llongau a Masnach”.
Denodd y sesiwn 150 o gyfranogwyr o bob rhan o'r sector cyfreithiol a chafodd ei chadeirio gan aelod o'r IISTL, Simon Rainey CF o Quadrant Chambers. Y sesiwn gyntaf oedd cyflwyniad calonogol am waith Comisiwn y Gyfraith yn y maes gan yr Athro Sarah Green, y Comisiynydd â Chyfrifoldeb.
Wedyn, cafwyd amlinelliad manwl gan yr Athro Tettenborn a'r Athro Soyer o'r IISTL am sut gallai Blockchain effeithio ar faterion megis hawliadau llwythi, dogfennaeth morgludiant, yswiriant morwrol a thalu hawliadau yswiriant ac ailyswirio.
Roedd y sesiwn, a ddilynwyd gan gwestiynau'r cyfranogwyr a sbardunodd drafodaeth fywiog, yn cydweddu'n berffaith â gwaith parhaus yr IISTL. Mae'r Sefydliad eisoes yn gweithio i werthuso effaith technoleg cyfriflyfr dosbarthedig a thechnolegau tebyg ar agweddau amrywiol ar gyfraith fasnachol, ac mae ar fin lansio prosiect arall yn y maes hwn.
Mae gweminar nesaf yr IISTL yn ymwneud â "Deallusrwydd Artiffisial a Llongau Awtonomaidd: Datblygu'r Fframwaith Cyfreithiol Rhyngwladol" a bydd yn nodi cyhoeddiad llyfr y mae nifer o aelodau'r IISTL wedi cyfrannu ato.