Bu’r Athro Stuart Macdonald, Dr Ashley Mattheis a Dr Joe Whittaker yn cyflwyno ym mhedwaredd Gynhadledd Flynyddol Rhwydwaith Cynghori ar Wrthderfysgaeth a Phropaganda Canolfan Gwrthderfysgaeth Ewrop (ECTC), ym Mhencadlys Europol yn Yr Hag.
Roedd y gynhadledd yn ddigwyddiad drws caeedig, oedd â’r nod o hwyluso’r broses o rannu gwybodaeth ac ymchwil academaidd sy'n berthnasol i wrthderfysgaeth ag ymarferwyr a llunwyr polisi.
Daeth 250 o gyfranogwyr i’r gynhadledd, gan gynnwys: asiantaethau gorfodi'r gyfraith, swyddogion o Aelod-wladwriaethau'r UE a gwledydd partner, ac o sefydliadau'r UE a sefydliadau rhyngwladol, yn ogystal ag ymchwilwyr gwadd o'r byd academaidd a diwydiant.
Roedd y gynhadledd yn gyfle i aelodau CYTREC rannu ychydig o'u gwaith diweddaraf â llunwyr polisi ac ymarferwyr blaenllaw, a chafwyd trafodaethau dilynol ar sut y gellir troi eu canfyddiadau yn argymhellion ymarferol:
- Siaradodd yr Athro Macdonald ar gymedroli cynnwys ffiniol; cynnwys nad yw'n torri telerau gwasanaeth platfform ond sydd serch hynny'n cael ei ystyried yn destun pryder neu'n niweidiol
- Edrychodd Dr Mattheis ar sut mae grwpiau asgell dde eithafol yn ymgysylltu ar-lein er mwyn cynyddu eu rhwydweithiau all-lein
- Siaradodd Dr Whittaker am sut mae proses radicaleiddio fel arfer yn cynnwys cyfuniad o ymgysylltu ar-lein ac all-lein
Roedd y prif bynciau eraill a drafodwyd yn ystod y gynhadledd yn cynnwys:
- Y llinell gynyddol aneglur rhwng trais terfysgol, eithafiaeth dreisgar, eithafiaeth ddi-drais ac ymgyrchedd
- Terfysgaeth ôl-sefydliadol ac ideolegau hybrid
- Y cysylltiad rhwng gweithgarwch ar-lein a gweithgarwch all-lein a'i effaith ar asesu’r bygythiad
- Rheoleiddio cynnwys terfysgol ac eithafol ar-lein
- Technoleg a thueddiadau presennol
- Tueddiadau'r dyfodol ym maes technoleg sy'n berthnasol i wrthderfysgaeth
Trefnwyd a hwyluswyd y gynhadledd gan Rwydwaith Cynghori ar Derfysgaeth a Phropaganda Canolfan Gwrthderfysgaeth Ewrop (ECTC), , sy'n cysylltu arbenigwyr gwrthderfysgaeth o'r byd academaidd, y sector preifat ac asiantaethau gorfodi'r gyfraith.
Trwy'r rhwydwaith hwn, mae arbenigwyr yn cyfnewid gwybodaeth ac arbenigedd o'u priod feysydd ar ddatblygiadau diweddar mewn gwrthderfysgaeth. Mae'r Athro Macdonald yn aelod o Bwyllgor Llywio'r Rhwydwaith Cynghori, ochr yn ochr â’r Athro Maura Conway, sydd hefyd yn aelod o CYTREC ac yn Athro ym Mhrifysgol Abertawe.