Mae gan y Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnach Ryngwladol berthynas agos â Kennedys; cwmni byd-eang sy'n arbenigo mewn sawl sector masnachol gyfreithiol, gyda ffocws penodol ar yswiriant.

Mae'r cwmni wedi noddi'n hael wobr ar gyfer modiwl yswiriant morol Abertawe am nifer o flynyddoedd ac mae'n bleser gennym gyhoeddi enillydd eleni.

Cafwyd y marc uchaf eleni mewn yswiriant morwrol gan Cesar Peniche Luna, a fydd yn elwa o wobr ariannol a'r cyfle i gael interniaeth gyda'r cwmni. Mae Cesar yn hanu o Fecsico ac mae'n gyfreithiwr cymwysedig yn ei wlad.

Cyflwynwyd y wobr mewn cinio yn swyddfeydd Kennedy's yn Llundain mewn derbyniad a fynychwyd gan sawl partner a chyfreithwyr newydd gymhwyso sy'n gweithio i'r cwmni.

Yn siarad ar ôl y digwyddiad, meddai'r Athro Barış Soyer, a fu'n gwmni i Cesar gyda'r Athro George Leloudas yn Kennedys:

"Mae'n bleser mawr cael cysylltiad da gyda chwmni cyfreithiol blaenllaw. Mae'n arwydd clir o'r parch a roddir i raglenni LLM Abertawe, ac mae'r cysylltiad agos hwn â Kennedys yn gyfle rhagorol i'n myfyrwyr.  Dyma fydd ei ail interniaeth yr haf hwn yn Llundain ac rydym yn dymuno'n dda iddo yn ei fywyd proffesiynol".

Rhannu'r stori