Cyrchu cyfleusterau pwrpasol o’r radd flaenaf, offer a hyfforddiant a chymorth technegol ar y safle sy’n gallu’ch helpu i gael mantais gystadleuol a gwella eich galluoedd arloesi. Yn ogystal, gallwch gyrchu adnoddau diwylliannol a chelfyddydol helaeth, gan gynnwys archifau, llyfrgelloedd, amgueddfeydd a mannau arddangos.

Drwy weithio gyda Phrifysgol Abertawe, gall eich sefydliad:

  • Gyrchu ein hyfforddiant Ymchwil a Datblygu a chymorth technegol
  • Defnyddio ein labordy a’n swyddfeydd
  • Datblygu a phrofi cynnyrch a phrosesau

Tenantiaid a chysylltiadau'r Ysgol Feddygol

Mae gan ein rhwydwaith bywiog o fusnesau gwyddor bywyd o'r un anian fynediad i ystafelloedd swyddfa, cyfleusterau a chefnogaeth bwrpasol trwy un o'n pecynnau aelodaeth ragorol.