Rydym yn cynnig rhaglen datblygu ymchwilwyr gynhwysfawr ar gyfer ymchwilwyr ôl-raddedig, gan eu cefnogi i ddatblygu'r sgiliau, yr wybodaeth a'r nodweddion i ragori yn eu hymchwil a'u gyrfaoedd yn y dyfodol, boed yn academia neu'r tu hwnt.
Mae ein rhaglen yn cynnwys gweithdai hyfforddi ffurfiol a gyflwynir gan arbenigwyr mewnol ac allanol, cyfleoedd ymdrochol sy'n eich galluogi chi i ddefnyddio ac adfyfyrio ar eich sgiliau, yn ogystal ag adnoddau ar-lein y gallwch chi eu cyrchu ar alw, mor aml ag y mynnwch chi. Mae'r rhaglen wedi'i hategu gan Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr Vitae, a gynlluniwyd i gefnogi eich ymchwil a'ch datblygiad proffesiynol ym mhob cam o'ch astudiaethau.
Datblygiad Ymchwilwyr Ôl-raddedig a Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr Vitae
Mae ein rhaglen bellach wedi'i mapio i Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr Vitae a ddiwygiwyd yn 2025, i'ch helpu chi fel ymchwilwyr i gynllunio, blaenoriaethu a monitro eich datblygiad eich hun.
Mae'r Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr yn amlinellu gwybodaeth, sgiliau ac ymddygiadau ymchwilwyr effeithiol ar bob cam o'u gyrfaoedd, gan gydnabod cyfraniad ymchwilwyr at gymdeithas, newid economaidd ac amgylcheddol ym myd addysg uwch a'r tu hwnt. Mae wedi'i greu gan Vitae, arweinydd ym maes datblygu ymchwilwyr, gyda mewnbwn gan ymchwilwyr ac ymarferwyr ar draws amrywiaeth o gamau gyrfa a sectorau.
Ein hymagwedd ni at ddatblygu ymchwil ôl-raddedig
Nid yw datblygu a hyfforddi yn dechrau ac yn dod i ben ar ôl cwblhau gweithdy na darllen adnodd penodol. Rydym ni'n annog ein myfyrwyr ymchwil i ystyried eu gradd gyfan fel rhaglen barhaus a chyfannol o ddatblygu lle byddant yn dysgu sut i fod yn ymchwilwyr yn eu meysydd dewisol, gan ddatblygu'r sgiliau mae eu hangen i gwblhau eu prosiect ymchwil ac ysgrifennu eu traethawd doethurol, yn ogystal â datblygu amrywiaeth o nodweddion proffesiynol a phersonol trosglwyddadwy a fydd yn cael eu defnyddio yn yr hyn maent yn dewis ei wneud nesaf. Mae gwneud hyn yn golygu manteisio ar yr holl gyfleoedd sydd ar gael, boed yn weithdai a digwyddiadau ffurfiol neu adfyfyrio anffurfiol a dysgu sy'n deillio o sgwrsio yn y labordy neu dros goffi, a phopeth rhwng y ddau begwn hyn.