Am Lles

Consortiwm o holl brifysgolion Cymru yw Lles, gan weithio mewn partneriaeth â chyrff cyhoeddus a thrydydd sector Cymru. Bydd yn ariannu ac yn hyfforddi myfyrwyr PhD i ymchwilio i faterion sy'n ymwneud â lles drwy'r celfyddydau a'r dyniaethau.  Lles yw'r gair Cymraeg am 'benefit' neu 'wellbeing'. Mae ei ddefnydd yma'n nodi sut bydd myfyrwyr Lles yn elwa o'r hyfforddiant a datblygiad gyrfa a sut bydd eu gwaith ymchwil ar les er budd y gymdeithas ehangach yng Nghymru a'r tu hwnt. 

Bydd Lles a'i ysgoloriaethau ymchwil yn cael eu tywys gan uchelgais, egwyddorion a gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn unigryw yn fyd-eang ac mae'n gorfodi cyrff cyhoeddus yng Nghymru i bennu amcanion a chymryd camau i wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru yn erbyn saith nod: ffyniant, gwydnwch, cydraddoldeb, iechyd, cymunedau cydlynus, diwylliant ac iaith Gymraeg bywiog, cyfrifoldeb byd-eang. Nod Lles yw defnyddio'r celfyddydau a'r dyniaethau i fodloni a deall y nodau hyn. 

Bydd Lles yn ariannu 28 o ysgoloriaethau ymchwil PhD ar draws pedair carfan. Bydd ysgoloriaethau ymchwil Lles yn archwilio ac yn dangos sut gall y celfyddydau a'r dyniaethau gyfrannu at blaned, pobl a lleoedd iach. Wrth wraidd y prosiect ceir Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Lluniwyd y ddeddfwriaeth unigryw hon i wella lles a chynaliadwyedd pobl a lleoedd yng Nghymru. Nod sylfaenol Lles yw gweithio gyda'r weledigaeth honno a'i symud ymlaen. Bydd yr holl fyfyrwyr yn cael hyfforddiant unigryw ar y cyd â Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru am y Ddeddf, a'i phum ffordd o weithio a sut gall y rhain gael eu defnyddio mewn bywyd cyhoeddus a pholisi. Bydd pob myfyriwr Lles yn cael lleoliad cynaledig gyda chorff yng Nghymru lle byddan nhw'n datblygu eu gwaith ymchwil a'u profiadau cyflogaeth.

Partneriaid Consortiwm

Prifysgol Abertawe, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Y Brifysgol Agored, Prifysgol De Cymru a Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.