Mae Prifysgol Abertawe wedi bod yn ysbrydoli newid cadarnhaol drwy ei phobl a’i hymchwil ers dros 100 mlynedd. Ers sefydlu’r Brifysgol, rydym wedi gwerthfawrogi amrywiaeth pan wnaethom benodi Mary Williams ym 1921 i swydd newydd Athro Iaith a Llenyddiaeth Ffrangeg yn yr Adran Ieithoedd Modern, enghraifft gynnar o fenyw yn ennill teitl athro.

Gwnaethom hefyd benodi’r Athro Florence Mockeridge yn Bennaeth Bioleg y Brifysgol ar ddechrau’r 1920au. Gwnaeth yr Athro Mockeridge, a ddaeth yn Athro Botaneg yn ddiweddarach, ddatblygu’r adran ar ei phen ei hun, a rhoddodd y broses ar waith a fyddai’n arwain at yr adeilad academaidd pwrpasol cyntaf ar ein safle yn Singleton, sef yr adeilad Gwyddorau Naturiol.

Erbyn canol y 1940au, roeddem wedi ffynnu fel man addysgu ac ymchwilio amlddisgyblaethol gan gynnig ysgolheictod yn y Celfyddydau, y Gwyddorau ac Economeg ac ym 1948 daethom yn un o’r prifysgolion campws cyntaf yn y DU.

Gwnaethom barhau i ddenu’r rhai a oedd yn rhagori yn eu maes gan gynnwys, o 1940 i 1966, yr athronydd Americanaidd blaenllaw Rush Rhees, a addysgodd Athroniaeth yn y Brifysgol. Roedd Rush Rhees yn fyfyriwr, yn ffrind, ac yn weithredwr llenyddol i’r athronydd Ludwig Wittgenstein a ymwelodd â Rhees yn Abertawe sawl gwaith. Fel ysgutor ewyllys Wittgenstein, cafodd Rhees lawer o ddeunydd ar gyfer yr adran, ac o ganlyniad, daeth y Brifysgol yn arweinydd ym maes meddwl athronyddol.

Rydym yn ymfalchïo ein bod yn brifysgol gymunedol, mewn ystyr ranbarthol a byd-eang, a thros y blynyddoedd rydym wedi bod yn safle ymchwil sydd wedi peri canlyniadau dwys i bobl ledled y byd.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, er enghraifft, daethom yn gartref i Ysgol Frenhinol Mwyngloddiau Coleg Imperial Llundain ac yn Adran Ymchwil Ffrwydrol y llywodraeth ar ôl iddi gael ei symud o Lundain.

Ac yn y 1950au daethom â’r byd i Abertawe pan wnaethom groesawu cyfres o Gymrodyr Llesiant Cymdeithasol y Cenhedloedd Unedig, lle astudiodd pobl o ddwsinau o wledydd am gymwysterau mewn gwaith cymdeithasol yn y Brifysgol, yn ogystal â gweithio’n agos gyda phobl, busnesau a chwmnïau lleol i gael dealltwriaeth o anghenion a phroblemau penodol y rhanbarth.

Cafodd ein henw da am ragoriaeth ym maes peirianneg ei hybu gan waith yr academydd byd-enwog yr Athro Olek Zienkiewicz, y peiriannydd dull elfennau meidraidd a fu’n gweithio yn Abertawe o ddechrau’r 1960au tan ddiwedd y 1980au. Ei lyfrau ar y Dull Elfennau Meidraidd oedd y cyntaf i gyflwyno’r pwnc a hyd heddiw mae’n parhau i fod yn destun cyfeirio safonol.Sefydlodd hefyd y cyfnodolyn cyntaf a oedd yn ymdrin â mecaneg gyfrifiadol ym 1968, The International Journal for Numerical Methods in Engineering, sy’n dal i fod yn brif gyfnodolyn maes Cyfrifiannau Rhifiadol.

Mae gan Abertawe hanes disglair ym maes ymchwil cyfrifiadureg; mae ein cyn-fyfyrwyr a aeth ymlaen i weithio yma yn y 1970au yn cynnwys Andy Hopper a oedd yn ddylanwadol iawn yn ystod blynyddoedd cynnar Acorn, ac Alan Cox a gynhaliodd waith sylfaenol ar gnewyllyn Linux: ei fersiwn ef yw’r system weithredu fwyaf eang yn y byd.

Rydym bob amser wedi pwysleisio ein treftadaeth Gymreig, ac mae’n debyg bod ein Hadran Hanes yn gyfrifol, yn fwy nag unrhyw un arall, am chwyldroi sut y cafodd Cymru ei hastudio. Hwyluswyd hyn i raddau helaeth gan gyfraniad yr Athro Glanmor Williams, a fu’n Bennaeth Hanes yn y Brifysgol am gyfnod hir ac a oedd hefyd yn sylfaenydd y Welsh History Review.

Mae gwella iechyd a lles pobl Cymru a thu hwnt bob amser wedi ysbrydoli ein hymchwil feddygol. Yn 2007, cafodd y gwaith hwn gwmpas newydd pan wnaethom agor cam cyntaf ein hadeilad Sefydliad Gwyddor Bywyd (ILS), wrth ymyl Ysbyty Singleton y rhanbarth. Dilynwyd hyn gan ein Sefydliad Gwyddor Bywyd 2 (ILS2), sy’n gartref i nifer o gyfleusterau allweddol gan gynnwys y Ganolfan Nanoiechyd. Heddiw, rydym yn y 5ed safle yn y DU ar gyfer Meddygaeth (The Times and Sunday Times Good University Guide 2024).

Yn unol ag anghenion ymchwil yr 21ain ganrif, yn 2012 gwnaethom ddechrau ar ein prosiect mwyaf hyd yma i ddatblygu campws. Roedd hyn yn cynnwys agor Campws y Bae yn 2015, gan ein galluogi i ehangu ein Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg ac ymchwil bellach mewn meysydd fel dynameg hylif cyfrifiadol, yr ydym wedi rhagori ynddynt yn draddodiadol. Mae’r Gyfadran hefyd yn gartref i Sefydliad Zienkiewicz ar gyfer Modelu, Data ac AI. Mae Ysgol Reolaeth newydd ar Gampws y Bae wedi cyflymu ein gwaith rheoli busnes, cyfrifeg a chyllid ac ymchwil economaidd.

Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 (REF2014) gwnaethom wireddu ein huchelgais i fod ymhlith y 30 brifysgol orau sy’n canolbwyntio ar ymchwil, gan godi’n uwch nag unrhyw Brifysgol arall yn y DU gyda 90% o’n hymchwil yn cael ei hystyried yn rhagorol yn rhyngwladol. Ac yn yr REF diweddaraf (2021), nodwyd twf yn y gyfran gyffredinol o’n hymchwil sy’n arwain y byd ac sy’n rhagorol yn rhyngwladol o 80% yn 2014 i 86% yn 2021.

Yn 2018, daeth ein Campws y Bae yn gartref i’r Ffowndri Gyfrifiadol gwerth £32.5 miliwn, gan gynnal ein traddodiad am ragoriaeth ym maes cyfrifiadureg. Mae’r Ffowndri newydd yn gwneud Cymru’n gyrchfan fyd-eang i wyddonwyr cyfrifiannol ac yn creu cyfleoedd diderfyn i’n potensial mewn ymchwil gyfrifiadol.

Yn 2020, gwnaethom ymateb i’r heriau yn sgîl Covid-19 drwy ein hymchwil, gan ariannu’n llwyddiannus sawl prosiect ymchwil i’r pandemig a oedd yn unigryw ac yn gydweithredol yn fyd-eang. Yn ogystal, gwnaethom helpu ein myfyrwyr yn eu cyfnod o angen a chefnogi ein gweithwyr rheng flaen drwy ddarparu cyfarpar diogelu personol ychwanegol a glanweithydd dwylo.

Heddiw, ar draws ein Cyfadrannau, mae ein gweithgarwch ymchwil ac arloesi sy’n seiliedig ar chwilfrydedd a chynaliadwyedd yn helpu i fynd i’r afael â’r her sero net, mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, meithrin cymdeithas gysylltiedig a chynhwysol, gwella iechyd a lles, a chroesawu cyfoeth lleoedd a diwylliant.

Wrth i ni gychwyn ar ein hail ganrif, byddwn yn parhau i ymdrechu am ragoriaeth, gan ddenu’r meddyliau gorau a mwyaf disglair, a rhoi ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth wrth wraidd popeth a wnawn.

I gael gwybod mwy am yr holl waith ymchwil arloesol sy’n digwydd ym Mhrifysgol Abertawe, ewch i: swansea.ac.uk/cy/ymchwil