Beth yw camymddygiad mewn ymchwil?
Mae Cyngor Ymchwil y DU yn diffinio camymddygiad mewn ymchwil fel anwiredd, ffugiad, llên-ladrad neu wyriad difrifol arall o arferion ymchwil a dderbynnir yn gyffredinol at ddiben cynnig, cyflawni, adolygu neu adrodd am ganlyniadau ymchwil.
- Anwiredd yw ffugio data neu ganlyniadau a'u cofnodi neu adrodd amdanynt.
- Ffugiad yw cam-ddefnyddio deunydd, cyfarpar neu brosesau ymchwil, neu newid neu hepgor data neu ganlyniadau fel na chaiff yr ymchwil ei adlewyrchu'n gywir yng nghofnod yr ymchwil.
- Llên-ladrad yw defnyddio syniadau, prosesau, canlyniadau neu eiriau rhywun arall heb eu cydnabod yn briodol.
- Gallai gwyriadau difrifol eraill gynnwys:
- Camliwio data a/neu ddiddordebau a/neu gyfranogiad;
- Methu dilyn gweithdrefnau a dderbynnir, neu fethu gofalu wrth gyflwyno cyfrifoldebau am:
- Osgoi risg neu niwed afresymol i bobl, anifeiliaid neu'r amgylchedd;
- trin yn gywir wybodaeth freintiol neu breifat am unigolion a gesglir yn ystod yr ymchwil