Bydd rhaid i rai prosiectau ymchwil ym maes iechyd a gofal cymdeithasol fynd drwy broses caniatâd yr HRA (Llywodraethu'r Adran Iechyd) i sicrhau cymeradwyaeth. Gellir cyflwyno cais am hyn drwy system yr IRAS ar-lein.
Wrth gyflwyno cais am gymeradwyaeth yr HRA, bydd angen i chi wirio'r holl ddogfennau ategol er mwyn osgoi arafu eich cais yn ddiangen. Un o'r prif resymau pam na ellir dilysu ceisiadau yw diffyg dyddiad a rhif fersiwn. Gweler yma am ganllawiau.
Pecyn Gwybodaeth Leol y DU yw'r grŵp o ddogfennau a ddarperir i sefydliadau'r GIG / Iechyd a Gofal Cymdeithasol er mwyn creu astudiaethau ymchwil. Bydd y rhan fwyaf, ond nid pob un, o'r cydrannau wedi'u cyflwyno wrth gyflwyno ffurflen yr IRAS.
Ceir rhagor o wybodaeth yma.
Yn ystod proses caniatâd yr HRA, asesir y prosiect ymchwil ar sail y meini prawf canlynol :
- Cais yr IRAS wedi'i gwblhau'n gywir ac mae'r ddogfennaeth yn gywir
- Risg i gyfranogwyr, h.y. Gwybodaeth cyfranogwyr /dogfennau cydsyniad / proses gydsynio
- Asesiad o’r protocolau
- Dyraniad cyfrifoldebau
- Trefniadau yswiriant /indemniad wedi'u hasesu
- Trefniadau ariannol wedi'u hasesu
- Cydymffurfiaeth â'r Ddeddf Diogelu Data a materion diogelwch data wedi'u hasesu
- Cydymffurfiaeth â chyfreithiau neu reoliadau cymwys, h.y. yr HTA, Rheoliadau Ymbelydredd yr MCA