Cwestiynau Cyffredin
- Uchafbwyntiau Ymchwil
- Archwiliwch ein hymchwil
- Nodau Datblygu Cynaliadwy
- Gwnewch Ymchwil Gyda Ni
- Dod o hyd Rhaglenni Ymchwil
- FRY 2021 - Ein Canlyniadau
- Darganfyddwch ein hymchwil
- Ein Hamgylchedd Ymchwil
- Uniondeb Ymchwil: Moeseg a Llywodraethu
- Effaith ymchwil
- Ymchwilio i newyddion a nodweddion
- Hanes o ymchwil ysbrydoledig
- Ein Cenhadaeth Ddinesig
- Podlediad Archwilio Problemau Byd-eang
- Cysylltwch â'n tîm gwasanaethau arloesi, ymchwil ac ymgysylltu
Cwestiynau Cyffredin
Pryd bydd y system newydd ar gael?
Mae'r ffurflen gais newydd ar gyfer moeseg ymchwil wedi bod ar gael yn yr Ysgol Seicoleg ers mis Rhagfyr ac mae wedi cael ei threialu ledled y Brifysgol.
Dechreuodd y system ar 15 Mawrth 2023, ar gyfer pob cais newydd gan fyfyrwyr ôl-raddedig, ymchwilwyr ôl-raddedig a staff. Bydd pob hen system yn cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau newydd gan fyfyrwyr ôl-raddedig, ymchwilwyr ôl-raddedig a staff ddiwedd mis Ebrill, h.y. dim ond ar y system newydd y caiff y grwpiau hyn gyflwyno ceisiadau newydd o 1 Mai.
Bydd myfyrwyr israddedig yn eu blwyddyn olaf yn gallu defnyddio’r system o Hydref 2023 ymlaen.
Beth sy'n digwydd i fy nghais presennol pan fydd y system newydd yn fyw?
Bydd pob cais presennol yn cael ei brosesu drwy'r systemau sy'n bodoli ar hyn o bryd gan gynnwys diwygiadau.
Yr eithriadau fydd diwygiadau i geisiadau risg uchel, diwygiadau i ymchwil a gafodd ei chymeradwyo cyn mis Ionawr 2021, neu ddiwygiadau gan yr hen Goleg Peirianneg. Bydd y rhain yn cael eu diwygio a'u prosesu drwy'r system newydd. Ceir canllawiau ynghylch gwneud diwygiad drwy'r tab "Help" o dan yr adran "Help" yn y system ar-lein.
A ddylwn i fod yn cwblhau cais Adolygiad Moeseg?
Efallai bydd angen i'r holl fyfyrwyr a staff sy'n bwriadu cynnal ymchwil ymgymryd ag adolygiad moesegol.
Cyfrifoldeb y Prif Ymchwilydd neu'r Ymchwilydd yw sicrhau bod yr ymchwil yn cael ei chynnal mewn modd moesegol. Os ydych chi’n ansicr, gofynnwch am gyngor gan weinyddwr moeseg eich Cyfadran.
Cydnabyddir na fydd angen craffu moesegol gan un o bwyllgorau'r Brifysgol ar yr holl wahanol fathau o weithgareddau ymchwil a gynhelir yn y Brifysgol. Mae'r rhestr isod yn arweiniad cyffredinol ynghylch casglu data ar gyfer ymchwil y gellid ei heithrio o adolygiad moesegol.
- Astudiaethau sicrhau ansawdd, gwerthusiadau rhaglenni, adolygiadau perfformiad, a phrofi o fewn gofynion addysgol a/neu sefydliadol arferol, i'w defnyddio at ddibenion asesu a/neu wella, ac nid oes cwestiwn ymchwil ynghlwm wrth y peth.
- Ymchwil sy'n seiliedig ar adolygiad o lenyddiaeth gyhoeddedig neu lenyddiaeth a adroddwyd yn gyhoeddus.
- Gwaith ymgynghori, oni bai ei fod yn cael ei gynnal dan nawdd y brifysgol.
Ceir dogfen ag enghreifftiau yma
Ar gyfer unrhyw eithriadau pellach, gweler tudalennau gwe Moeseg eich Cyfadran yma
Os ydych chi'n fyfyriwr, mae cyngor a chymorth ar gael gan eich goruchwyliwr neu, ar gyfer staff a myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, gan eich pwynt cyswllt gweinyddol ar gyfer moeseg. Gweler "Ble gallaf ddod o hyd i gymorth"
Ble gallaf ddod o hyd i gymorth?
Cyfeiriad e-bost y Dyniaethau a'r Gwyddorau CymdeithasolFHSS-Ethics@abertawe.ac.uk
Tudalen We: Pwyllgor Moeseg Ymchwil Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
Cyfeiriad e-bost Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd: FMHLS-Ethics@abertawe.ac.uk
Tudalen We: Pwyllgor Moeseg Ymchwil y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Cyfeiriad e-bost Gwyddoniaeth a Pheirianneg: FSE-Ethics@abertawe.ac.uk
Tudalen We: Pwyllgor Moeseg Ymchwil y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Cyfeiriad e-bost i ymholiadau nad ydynt ar gyfer Cyfadran:researchintegrity@abertawe.ac.uk
Ymchwil gyda'r GIG:researchgovernance@abertawe.ac.uk
Ar gyfer ymholiadau ynghylch y system dechnegol:
Cyflwynwch gais digidol am gymorth i'r tîm yma
Pa hyfforddiant sydd ar gael ar gyfer y system newydd?
Ceir canllawiau hyfforddiant ac arddangosiadau ar y system yn yr adran gymorth. Mae sesiynau hyfforddiant wedi’u hamserlenni ar gyfer adolygwyr ac ymgeiswyr, gan gynnwys sesiynau holi ac ateb ac arddangosiadau amser real. Mae’r sesiynau hyfforddiant rhithwir hyn ar agor i bawb. E-bostiwch Infonetica-support@abertawe.ac.uk, os hoffech chi ymuno a chaiff dolenni i’r cyfarfodydd eu hanfon atoch chi.
Os oes angen cymorth neu hyfforddiant ychwanegol arnoch, cysylltwch â Gweinyddwr Moeseg Ymchwil eich Cyfadran.
Cyfeiriad e-bost i ymholiadau nad ydynt ar gyfer Cyfadran: researchintegrity@abertawe.ac.uk
Ymchwil gyda'r GIG: researchgovernance@abertawe.ac.uk