Cymorth wedi'i ariannu'n Rhannol
Efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid i helpu i gefnogi eich astudiaeth.
Mae cyllid y Llywodraeth bellach ar gael i fyfyrwyr o Gymru, Lloegr a'r UE sy'n dechrau rhaglenni ymchwil ôl-raddedig cymwys ym Mhrifysgol Abertawe. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n tudalen benthyciadau ôl-raddedig.
I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.
Mae Academi Hywel Teifi ym Mhrifysgol Abertawe a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig nifer o ysgoloriaethau a bwrsariaethau hael i fyfyrwyr sy'n dymuno astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog. I gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael i chi, ewch i dudalen Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Academi Hywel Teifi.
Ysgoloriaeth Ffi Lawn
Os ydych yn bwriadu cynnal ymchwil DBA mewn Iechyd a Gofal sy'n Seiliedig ar Werth, a gweithio o fewn GIG Cymru, gofal cymdeithasol yng Nghymru neu sefydliad trydydd sector yng Nghymru; gallwch wneud cais am ysgoloriaeth lawn fel rhan o raglen Academi Dysgu Dwys (ILA) Llywodraeth Cymru.
Bydd angen i ymgeiswyr fod wedi gwneud cais am ysgoloriaeth a chael eu derbyn ar y cwrs cyn y gellir dyfarnu ysgoloriaeth.