Cyflwynodd Esiamplau Bevan brosiectau iechyd a gofal arloesol yn y Senedd.
Rhoddwyd cydnabyddiaeth i weithwyr proffesiynol iechyd a gofal sy’n treialu a phrofi syniadau arloesol ar reng flaen y GIG mewn digwyddiad arddangos yn y Senedd – Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a noddwyd gan Dawn Bowden AC, ar 24 Ionawr.
Dros gyfnod o 12 mis, bydd Esiamplau Bevan yn cael cefnogaeth gan Gomisiwn Bevan, melin drafod flaenllaw ym maes iechyd a gofal, i roi egwyddorion gofal iechyd darbodus ar waith mewn ysbytai, meddygfeydd teulu, cartrefi gofal a chymunedau ym mhob cwr o Gymru.
Mae prosiectau gan garfan Esiamplau Bevan 2017 -18 wedi rhoi canlyniadau calonogol iawn, gan gynnwys:
- Ei gwneud yn gyflymach ac yn haws i gleifion â chanser gael triniaeth radiotherapi;
- Achub meddygfa deulu a oedd mewn trafferthion, drwy gynyddu sgiliau staff a thrawsnewid ymgysylltiad â chleifion;
- A defnyddio parafeddygon cymunedol i drin pobl yn eu cartrefi i osgoi derbyniadau i’r ysbyty.
Roedd Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn brif siaradwr yn y digwyddiad a fynychwyd gan dros 150 o arweinwyr y GIG, Aelodau Cynulliad, gweithwyr proffesiynol rheng flaen iechyd a gofal, ymchwilwyr academaidd a mwy.
Roedd Prif Weinidog Cymru, y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AC, yn bresennol yn y digwyddiad lle bu iddo longyfarch carfan Esiamplau Bevan 2017-18 ar eu gwaith pwysig.
Darparodd yr Athro Nick Rich (Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe) drosolwg o'i werthusiad annibynnol o'r rhaglen, gan ddangos bod cyfradd lwyddiant y prosiectau yn 75%, sy’n cymharu’n ffafriol â’r gyfradd lwyddiant o 30% ar gyfer prosiectau newid neu arloesi cyfatebol yn y GIG yn Lloegr.
Roedd y gwerthusiad hefyd yn dangos bod prosiectau Esiamplau Bevan yn canolbwyntio ar ‘newid y darlun mawr’ er mwyn mynd i’r afael â rhai o brif heriau’r GIG ar hyn o bryd, megis trefnu’r gweithlu ac ymdopi â phoblogaeth sy’n heneiddio.
Mae nifer fawr o brosiectau carfan Esiamplau Bevan 2017-18 wedi cael cydnabyddiaeth ar lefel genedlaethol, gan gynnwys Gwobrau Bright Ideas yr RCGP, Gwobrau GIG Cymru a Gwobrau Arloesi MediWales.
Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Mae'r rhaglen Enghreifftiau Bevan yn arwain y ffordd wrth gefnogi prosiectau arloesol ar draws GIG Cymru.
Mae ei lwyddiant yn dyst i ymroddiad y staff dan sylw, sy'n gyson yn wynebu'r her i chwilio am gyfleoedd newydd i yrru newid a thrawsnewid fel rhan o rwydwaith cenedlaethol cydnabyddedig. Mae'r gwaith hanfodol hwn yn helpu i gefnogi ein gweledigaeth yn 'Cymru Iachach' ac mae'n arwain at well canlyniadau a phrofiadau cleifion. "
Dywedodd yr Athro Syr Mansel Aylward, Cadeirydd Comisiwn Bevan: “Rydyn ni’n falch o gael arddangos gwaith gan Esiamplau Bevan, sy’n troi syniadau radical yn wirionedd er mwyn gwella iechyd a llesiant pobl Cymru.
Mae angen trawsnewid pethau yn y GIG yn hytrach na gwneud gwelliannau bychain – ac mae’r gweithwyr proffesiynol rheng flaen iechyd a gofal hyn yn bod yn fentrus wrth hybu prosiectau uchelgeisiol sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i brofiadau cleifion a chanlyniadau iechyd. Rydyn ni nawr yn galw ar GIG Cymru i sicrhau bod y mentrau arloesol hyn yn cael eu mabwysiadu a’u rhoi ar waith ledled Cymru.”
Comisiwn Bevan, a gynhelir a chefnogir gan Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe, yw prif felin drafod Cymru ar gyfer iechyd a gofal, ac mae wedi cefnogi dros 140 o brosiectau Esiamplau Bevan ar hyd a lled Cymru hyd yma.