Ar achlysur pwysig, yng Ngwobrau Ymchwil ac Arloesi'r Brifysgol, dathlwyd Dr Denis Dennehy, yr Ysgol Reolaeth, am ei ymrwymiad eithriadol i oruchwylio ymchwil, wrth iddo ennill y wobr a'r teitl Goruchwyliaeth Ymchwil Ragorol.
Mae'r wobr hon sydd o fri mawr yn cael ei chyflwyno i oruchwylwyr sydd wedi sefyll allan am greu amgylchoedd ymchwilio cefnogol, ysgogol a llawn ysbrydoliaeth ar gyfer myfyrwyr PhD a doethurol proffesiynol. Roedd ymagwedd Dr. Dennehy at oruchwyliaeth wedi sefyll allan am ei ddylanwad ar ysgogi ac ysbrydoli myfyrwyr tuag at ddysgu'n annibynnol. Roedd ei ymrwymiad i barchu a chefnogi datblygiad unigol y myfyrwyr, law yn llaw a gweithgareddau ysgolheigaidd sy'n gwella'r gymuned ymchwil, yn amlygu ei enwebiad ar gyfer y wobr hon.
Wrth dderbyn y wobr, mynegodd Dr. Dennehy ei ddiolchgarwch, gan roi pwyslais ar natur gydweithredol ei gyrhaeddiad. "Hoffwn fynegi fy niolchgarwch i fy myfyrwyr doethurol sydd wedi chwarae rhan bwysig wrth fy helpu i gyflawni'r wobr hon," oedd sylw Dr Dennehy. Cydnabyddodd yr adborth amhrisiadwy gan ei fyfyrwyr dros y blynyddoedd, gan amlygu sut mae eu sylwadau wedi llywio ei ymagwedd at oruchwylio.
Cysylltodd Dr. Dennehy ei llwyddiant â datblygiad proffesiynol parhaus, yn enwedig cwblhau'r Diploma Ôl-raddedig mewn Ymarfer Academaidd ym Mhrifysgol Galway. Mae'r cymhwyster hwn wedi rhoi gwybodaeth addysgegol uwch iddo, gan ganiatáu ymagwedd goruchwyliaeth gydweithredol a yrrir gan ragoriaeth. "Mae'r wobr hon yn golygu cymaint i mi," ychwanegodd, gan ddiolch i'r panel beirniadu am gydnabod ei ymrwymiad a’i gyfraniadau at oruchwylio ymchwil.
Mae gwobr Dr. Dennehy yn dathlu ei gyflawniadau personol ond hefyd yn amlygu ymrwymiad y Brifysgol i feithrin cymuned ymchwil fywiog. Mae ei esiampl dda o oruchwyliaeth yn ysbrydoliaeth ar gyfer cenedlaethau o ymchwilwyr y dyfodol, sy'n cwmpasu ysbryd rhagoriaeth academaidd a mentora.