Derbyniodd Dr Denis Dennehy o’r Ysgol Reolaeth Wobr Arweinyddiaeth gan adran y Dwyrain Canol Gogledd Affrica (MENA) y Gymdeithas Systemau Gwybodaeth (AIS).

Mae'r wobr yn gydnabyddiaeth o’i gyfraniad i ranbarth MENA, yn ogystal â bod yn Gyd-gadeirydd 5ed Cynhadledd MENA ar Systemau Gwybodaeth a gynhaliwyd yn King Fahd University of Petroleum & Minerals (KFUPM), Dhahran, Saudi Arabia.

Yn ystod y seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yn ystod digwyddiad cinio gala, derbyniodd yr Athro Yogesh K. Dwivedi o’r Ysgol Reolaeth Wobr Gwerthfawrogiad am ei gyfraniad i'r gynhadledd fel Prif Olygydd yr International Journal of Information Management, a'r gymuned ymchwil systemau gwybodaeth ehangach.

Denodd y gynhadledd dridiau o hyd (16-19 Tachwedd) 115 o gyflwyniadau o 40 gwlad, gyda 48% o'r cyflwyniadau wedi cael eu derbyn gan dîm o 113 o adolygwyr. Cynhaliwyd nifer o weithdai, sesiynau panel, a digwyddiadau rhwydweithio cyn y gynhadledd hefyd. Ymddangosodd y gynhadledd a'r seremoni wobrwyo mewn dwy erthygl a gyhoeddwyd gan Arab News ac a ymddangosodd ar lawer o gyfryngau cymdeithasol drwy gydol y digwyddiad.

Rhannu'r stori