Mae Tim Morgan, myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Abertawe sydd newydd drosglwyddo o MRes, wedi derbyn gwobr arbennig gan Ofal Sylfaenol Gwyrdd Cymru.
Enillodd Tim wobr Arwr Amgylcheddol 2022 gan Ofal Sylfaenol Gwyrdd Cymru. Mae Tim wedi gwneud ymchwil ychwanegol i gynaliadwyedd, sy'n cynnwys cwrs olion traed drwy'r Ganolfan Gofal Iechyd Cynaliadwy. Mae ei PhD ym Mhrifysgol Abertawe yn canolbwyntio ar archwilio i gynaliadwyedd gwell mewn gwasanaethau optometrig. Teitl arfaethedig ei PhD yw:
"Archwilio dangosyddion perfformiad allweddol (KPI's) ar gyfer cyfrifoldebau cymdeithasol a'r byd-eang mewn Optometreg Contractwyr Gofal Sylfaenol - y mesurau posibl a'r effeithiau/costau i'r arfer."
Mae Tim yn angerddol am greu mwy o gynaliadwyedd mewn gwasanaethau optometrig drwy annog clinigwyr a chleifion i feddwl am ôl troed carbon eu gofal llygaid.
Mae angerdd ac ymrwymiad Tim i astudio'r pwnc yn fanylach wedi cael ei gydnabod drwy'r wobr fawreddog hon. Goruchwylwyr Tim yw Dr Roderick Thomas, Dr Emily Bacon a Dr Dan Rees. Rydym yn falch iawn o gefnogi Tim ar ei daith PhD.
Dywedodd Dr Emily Bacon a Dr Roderick Thomas "Mae wedi bod yn bleser cefnogi brwdfrydedd Tim dros gymell y newid cynaliadwy hwn. Mae Tim yn angerddol am greu newid i wasanaeth optometrig Cymru, ac mae eisoes wedi cael effaith gadarnhaol ar ei sefydliad drwy wneud newidiadau gweithredol. Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at weld effaith bellach gwaith Tim''
Llongyfarchiadau mawr oddi wrth bawb ym Mhrifysgol Abertawe.