Derbyniodd Melissa Molyneaux, sy’n fyfyriwr blwyddyn gyntaf Gradd Sylfaen mewn Rheolaeth Fusnes Gymhwysol, wobr Myfyriwr Addysg Uwch y Flwyddyn yn y Seremoni Wobrwyo Myfyrwyr yng Ngholeg Cambria 20 Mehefin 2019.
Cipiodd Melissa Molyneaux, sy’n dilyn Gradd Sylfaen mewn Rheolaeth Fusnes Gymhwysol, Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe, ac sydd ar flwyddyn gyntaf ei phrentisiaeth yn Airbus, un o’r gwobrau clodwiw - Myfyriwr Addysg Uwch y Flwyddyn 2019 - yn seremoni gwobrwyo myfyrwyr Coleg Cambria 2019. Roedd y noson yn dathlu myfyrwyr ysbrydoledig o feysydd addysg uwch, addysg bellach, dysgu yn y gwaith a dysgu oedolion a’r gymuned.
Mae Melissa yn fyfyriwr sy’n benderfynol o lwyddo ac mae’n cael ei chydnabod am ei gwaith caled. Bu’n aelod allweddol o dîm y grŵp gradd Reolaeth Fusnes Gymhwysol newydd. Fel cynrychiolydd myfyrwyr, mae Melissa wedi mynychu pob cyfarfod o’r bwrdd astudio ar ran y grŵp a rhoddodd adborth gwerthfawr i bartneriaeth Cambria / Abertawe, gan gyflwyno anghenion ei chyd-fyfyrwyr. Mae hi'n llysgennad rhagorol i'w chyflogwr (Airbus) a'r coleg. Derbyniodd y marciau uchaf yn ei grŵp hyd yma
Dyma ddyfyniad o Yrfaoedd Blynyddoedd Cynnar Airbus:
“Mae Melissa bob amser yn gadarnhaol ac yn rhagweithiol, mae hi’n hyderus wrth gyflwyno ei hachos i unrhyw lefel y sefydliad, er mai dim ond myfyriwr ym mlwyddyn gyntaf ei rhaglen yw hi”.
Cafodd Melissa ei gwneud yn Llysgennad STEM trwy ei chyflogwr, ac mae hi wedi croesawu plant ysgolion lleol i Airbus, gan ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf ar Ddiwrnod y Llyfr y Byd, mae hi wedi ymweld â'i chyn Goleg 6ed Dosbarth fel siaradwr gwadd i rannu ei stori ac ysbrydoli 600 o rieni i annog eu plant i obeithio a chyflawni’n uwch na'r disgwyliadau. Yn ddiweddar iawn, cynrychiolodd Coleg Cambria yn nhîm buddugol cystadleuaeth Busnes yn y Bae 2019, a gynhaliwyd gan Brifysgol Abertawe yn Stadiwm Liberty, Abertawe. Fe wnaeth ei chyfraniad fel Rheolwr Prosiect helpu arwain y tîm i lwyddo.
Mae ei hymddygiad yn rhagorol, mae'n gefnogol ac yn parchu ei chyfoedion a’i thiwtoriaid, ac mae hi eisoes yn arddangos nodweddion arwain rhagorol. Mae ganddi hi bresenoldeb 100% ac mae’n cyflwyno ei gwaith mewn pryd bob amser.
Mae ei thiwtor presennol yn disgrifio Melissa fel: "model rôl gwych i ferched mewn STEM ond hefyd fel unigolyn ifanc brwd a chadarn".