Datblygu
Rheolir cyfraniad y Brifysgol at yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymraeg drwy Academi Hywel Teifi. Rhan bwysig o waith yr Academi yw cynyddu cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith Gymraeg a chryfhau enw'r Brifysgol fel sefydliad dwyieithog yng Nghymru. Mae'r Academi'n darparu arbenigedd ac adnoddau staffio ar gyfer gwaith datblygu cyfrwng Cymraeg o fewn y Brifysgol ac yn allanol gan ymateb i thema strategol y Brifysgol i;
- Gynnig addysgu ac ymchwil o safon ac ar y raddfa briodol i hwyluso'r cydweithrediadau strategol grymus sy'n angenrheidiol i ysgogi twf economaidd ac effaith ar gymdeithas yn lleol ac yn genedlaethol.
Mae Academi Hywel Teifi yn cyflwyno amrywiaeth o weithgareddau diwylliannol a chelfyddydol i gyfoethogi diwylliant Cymru a'r iaith Gymraeg. Rydym yn datblygu prosiectau arloesol gan gydweithio gyda mudiadau a sefydliadau Cymraeg i ddatblygu adnoddau a gwasanaethau er budd y Gymraeg. Elfen arall o waith datblygu’r Academi yw darparu rhaglen o gyrsiau addysg gydol oes cyfrwng Cymraeg yn y gymuned a threfnu cyfres gyson o ddarlithoedd a seminarau cyhoeddus er mwyn rhannu ymchwil ac arbenigedd staff cyfrwng Cymraeg Prifysgol Abertawe gyda’r gymuned a rhanddeiliaid eraill.