Y Rhaglen Gymunedol

Yn sgil newid o fewn Adran Addysg Barhaus i Oedolion, fe ddechreuodd Academi Hywel Teifi ariannu a chydlynu cyrsiau addysg gydol oes Cymraeg nad oedd bellach yn derbyn cyllid gan y Brifysgol er mwyn sicrhau parhad y ddarpariaeth. Mae rhaglen gymunedol Academi Hywel Teifi yn darparu cyfleoedd addysgiadol i ddysgwyr gydol oes rhugl eu Cymraeg ac i ddysgwyr Cymraeg lefel uwch. Mae’r cyrsiau wedi denu nawdd gan Lenyddiaeth Cymru ac yn cael eu cynnal yn ystod y dydd a gyda’r nos yn nwy ganolfan Gymraeg ardal Abertawe, sef Tŷ Tawe a Thŷ’r Gwrhyd. Mae’r cyrsiau tymor o hyd yn cynnwys dosbarthiadau llenyddiaeth, cynganeddu, hanes, diwylliant, cerddoriaeth, a ffotograffiaeth.