Digwyddiadau, Darlithoedd a Seminarau Cyhoeddus

Trefnir cyfres gyson o ddigwyddiadau, ddarlithoedd a seminarau cyhoeddus er mwyn rhannu ymchwil ac arbenigedd staff cyfrwng Cymraeg Prifysgol Abertawe gyda’r gymuned a rhanddeiliaid eraill. Mae’r digwyddiadau hyn yn cael eu cynnal ar ac oddi ar y campws ac hefyd yn cynnwys lansiadau llyfrau a sgyrsiau. Cynhelir Darlith Goffa Hywel Teifi yn flynyddol yn y Babell Lên yn yr Eisteddfod Genedlaethol pan wahoddir academwyr mwyaf blaenllaw Cymru i draddodi. Hefyd, cynhelir sgwrs flynyddol fel rhan o gyfres Prifysgol Abertawe i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched.

Mae digwyddiadau misol yn cael eu trefnu yn Nhŷ’r Gwrhyd sy’n hyrwyddo gwaith ac ymchwil academyddion cyfrwng Cymraeg y Brifysgol.  Mae Academi Hywel Teifi hefyd yn gyfrifol am drefnu Darlith Goffa Henry Lewis ar y cyd gyda Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau bob dwy flynedd.