Lluniau o Angharad Puw Davies, Gwyneth Davies, Dr Llinos Roberts a Shannon Rowlands

Profiadau Merched Meddygol yn ystod y Pandemig

Ar 8fed Mawrth, fel rhan o gyfres o ddigwyddiadau Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2022 Prifysgol Abertawe, fe fu Yr Athro Angharad Puw Davies sy'n arbenigwraig ar afiechydon heintus yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, yn arwain sgwrs ddifyr rhwng Yr Athro Gwyneth Davies, Ymgynghorydd Resbiradol a Dirprwy Bennaeth Clinigol yr Ysgol Feddygaeth, Dr Llinos Roberts, Meddyg Teulu ac Arweinydd Dysgu Cymunedol y Cwrs Meddygaeth i Raddedigion, a Shannon Rowlands, myfyrwraig yn ei blwyddyn olaf o'r cwrs Meddygaeth i Raddedigion. 

 

Gwyliwch recordiad o sgwrs 'Merched mewn Meddygaeth yn ystod y Pandemig' yma