Cronfa Goffa Hywel Teifi
Ers ei sefydlu yn 2010 mae’r Academi yn gweithio i sicrhau parhad i weledigaeth Hywel Teifi a’i waith fel ysgolhaig a phencampwr dros iaith, llenyddiaeth a diwylliant Cymru. Ei nod yw cefnogi, cynyddu a chyfoethogi darpariaeth addysg ac ymchwil cyfrwng Cymraeg, hybu cydweithio, mentergarwch a chreu cyfleoedd trwy gyfrwng yr iaith ar lefel genedlaethol a chymunedol.
Yn 2012, sefydlwyd Cronfa Goffa Hywel Teifi i sicrhau twf ar waith yr Academi ac ysbrydoli a dylanwadu cenedlaethau’r dyfodol. Mae’r Gronfa yn cefnogi prosiectau a darparu cyfleoedd ac adnoddau fydd yn newid bywyd ein myfyrwyr a chynorthwyo’r Brifysgol i weithredu fel sefydliad sydd yn agor drws ar ddyfodol disglair i Gymry Cymraeg.