Sesiwn Her yr Hinsawdd yng Ngŵyl y Gelli 2018

gyda'r yr Athro Siwan Davies ac Elin Rhys

Athro Siwan Davies ac Elin Rhys

Academi Hywel Teifi yn cynnal sesiynau cyfrwng Cymraeg yng Ngŵyl y Gelli

Cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau gan Brifysgol Abertawe yng Ngŵyl y Gelli 2018, ac am y tro cyntaf roedd Academi Hywel Teifi wedi sicrhau digwyddiadau cyfrwng Cymraeg fel rhan o gyfres y Brifysgol.

Cynhaliwyd yr ŵyl rhwng 24 Mai a 3 Mehefin 2018 ac roedd yr ŵyl yn cynnwys digwyddiadau a sgyrsiau gan ystod o siaradwyr - yn feddylwyr a llenorion o bob rhan o'r byd. Mae partneriaeth Prifysgol Abertawe gyda Gŵyl y Gelli yn rhoi'r cyfle i arddangos gwaith ac arbenigedd ysgolheigion y Brifysgol mewn sawl maes gan gynnwys llenyddiaeth, hanes, gwleidyddiaeth a'r amgylchedd. 

Gyda Chymru eleni'n nodi canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Mawr, 'Marwolaeth Heddwch' oedd teitl y drafodaeth a chafodd ei chynnal ar ddydd Mercher 30 Mai. Roedd yr Athro Brifardd Alan Llwyd o Adran y Gymraeg, a ysgrifennodd y ffilm 'Hedd Wyn', yn ymuno â Dr Aled Eirug o Academi Morgan i drafod effaith y rhyfel ar hanes a diwylliant Cymru. Y bardd, darlledwr ac aelod blaenllaw o'r ymgyrch i sefydlu Academi Heddwch Cymru, yr Athro Mererid Hopwood, oedd yn cadeirio'r drafodaeth. 

Ar ddydd Iau 31 Mai roedd yr arbenigwr byd-eang ar newid hinsawdd, yr Athro Siwan Davies o'r Adran Ddaearyddiaeth yn trafod y gyfres ddogfen Her yr Hinsawdd yng nghwmni cynhyrchydd y gyfres Dr Elin Rhys. Roedd y drafodaeth yn ystyried pwysigrwydd a heriau cyfathrebu ymchwil gwyddonol mewn modd poblogaidd i'r cyhoedd.       

Dywedodd Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi, Dr Gwenno Ffrancon: "Roedd hi'n bleser gan Academi Hywel Teifi gynnal y sesiynau hyn a oedd yn arddangos arbenigedd ysgolheigion cyfrwng Cymraeg Prifysgol Abertawe – a hynny mewn gŵyl sy’n denu ymwelwyr o bedwar ban byd. Rydym yn falch iawn hefyd bod partneriaeth gyffrous y Brifysgol gyda Gŵyl y Gelli yn golygu y bydd modd i fynychwyr yr ŵyl cael profiad Cymraeg yn ystod eu hymweliad, gan glywed agweddau ar hanes, llenyddiaeth a gwyddoniaeth yn cael eu trafod yn yr iaith.”  

 

Gŵyl y Gelli 2018

Gŵyl y Gelli 2018 / Hay Festival 2018