Prifysgol Abertawe yw noddwr y GwyddonLe, Eisteddfod yr Urdd

Mae'r Brifysgol yn denu ymhell dros 40,000 i ymwelwyr yn flynyddol i'r Gwyddonle

Llun o babell y GwyddonLe ym Mae Caerdydd yn 2019

Y GwyddonLe yw'r babell wyddoniaeth ar faes Prifwyl yr Urdd

Ffurfiodd Prifysgol Abertawe bartneriaeth gydag Urdd Gobaith Cymru yn 2011 er mwyn cefnogi a datblygu y GwyddonLe, sef y babell wyddoniaeth ar faes Prifwyl yr Urdd. Mae staff marchnata Academi Hywel Teifi yn sefydlu ac yn cynnal pwyllgor o arbenigwyr y Gwyddorau o'r Brifysgol yn flynyddol i gynllunio a threfnu y gweithgareddau rhyngweithiol ar gyfer ymwelwyr ifanc o bob oed.

Mae’r gweithgareddau yn cynnwys gweithgareddau allestyn cyn wythnos yr Eisteddfod mewn ffurf ymweliadau ysgol, gweithdai a chystadleuthau. Mae Her Sefydliad Morgan wedi bod yn rhan o weithgareddau’r GwyddonLe ers 2018. Mae'n gyfle i ddisgyblion arddangos eu sgiliau rhesymu a dadlau yn ogystal â derbyn adborth gan ffigurau blaenllaw fydd yno’n beirniadu’r gystadleuaeth.

Trwy’r GwyddonLe mae’r Academi yn sicrhau bod modd i staff a myfyrwyr ôl-radd Gwyddorau cyfrwng Cymraeg y Brifysgol ddod â gwyddoniaeth yn fyw i'r degau o filoedd o bobl ifanc sy’n ymweld â’r Maes a rhoi llwyfan i arbenigeddau a phrosiectau gwyddonol y Brifysgol. Mae’r Academi wedi sicrhau bod y Gwyddonle wedi proffesiynoli a datblygu o ran diwyg y gofod a’r cyfleusterau ac allbwn, wrth weithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau cenedlaethol fel S4C.   

Os hoffech chi ddysgu sut bydd Prifysgol Abertawe yn ymdrin â'ch gwybodaeth bersonol ac yn ei defnyddio ar ôl i ni gasglu eich data yn y Gwyddonle, darllenwch ein Datganiad Preifatrwydd.