Neges Heddwch ac Ewyllys Da Urdd Gobaith Cymru

Mae'n fraint o'r mwyaf i’r Urdd ddewis gweithio gyda myfyrwyr Abertawe

Myfyrwyr sydd wedi cymryd rhan yn creu'r neges yn arddangos symbol neges heddwch ac ewyllys da yr Urdd.

Rhai o fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg Prifysgol Abertawe yn llunio neges 2021

Myfyrwyr o Brifysgol Abertawe sydd wedi llunio neges Heddwch ac Ewyllys Da 2021 Urdd Gobaith Cymru ar ran pobl ifanc Cymru ac fe fydd neges-fideo ohoni yn cael ei rhyddhau ar y 18fed o Fai 2021.

Thema y neges eleni yw “Cydraddoldeb i Ferched”, a mynychodd un-ar-hugain o fyfyrwyr Prifysgol Abertawe weithdai o dan ofal y bardd a’r awdur Llio Maddocks a Gwennan Mair, Cyfarwyddwr Ymgysylltu Creadigol Theatr Clwyd er mwyn paratoi’r neges i’w chyhoeddi i’r byd. Mae wedi’i chyfieithu i dros 65 o ieithoedd ac mae ymrwymiad y bobl ifanc hyn i wneud gwahaniaeth wedi bod yn ysbrydoledig.

Yn ogystal â gweithio gyda’r Urdd i hyrwyddo’r neges trwy gyfryngau cymdeithasol a chydag ysgolion, bydd cyfle i rai o’r myfyrwyr i deithio i Efrog Newydd ar gyfer digwyddiad yn adeilad y Cenhedloedd Unedig yn Hydref 2021, yn ddibynnol ar reoliadau COVID-19.

Yn ddi-dor ers 1922, mae’r neges wedi’i hanfon yn flynyddol ar y 18fed o Fai ar ran pobl ifanc Cymru at bobl ifanc yng ngweddill y byd gan ysgogi ac ysbrydoli gweithgarwch dyngarol a rhyngwladol.  

Does dim un gwlad arall yn y byd wedi llwyddo i wneud hyn, gan oroesi rhyfeloedd byd a newidiadau sylweddol mewn dulliau cyfathrebu, o Morse Code i radio a'r gwasanaeth postio, i'r rhwydweithiau digidol heddiw.  

Dysgwch fwy ar dudalen Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2021 ar wefan yr Urdd

 

Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2021

Ein myfyrwyr sydd wedi llunio neges Heddwch ac Ewyllys Da 2021

Mae Prifysgol Abertawe yn ddiolchgar iawn i’r Urdd am ddarparu’r cyfle hwn i’n myfyrwyr gydweithio ar brosiect mor werthfawr, ac yn falch tu hwnt o’n pobl ifanc am godi eu llais dros ddyfodol gwell i fenywod a merched. Cliciwch ar y lluniau isod i ddysgu mwy am pam wnaeth ein myfyrwyr cymryd rhan a beth mae'r neges yn ei olygu iddynt. 

Delwedd o'r neges fideo

Gwern Dafis

Rheolaeth

Llun o Gwern Davis

Liam James Williams

Gwyddorau Meddygol Cymhwysol

Llun o Liam James Williams

Rhiannon Piggon

Hanes

Llun o Rhiannon Piggon

Abigail Thomas

Y Gyfraith

Llun o Abigail Thomas
Draig goch gyda logo menywod