Elen Mai Gibbin

BA Y Gyfraith a Ffrangeg, Hendy-gwyn ar Daf

Llun o Elen Mai Gibbin

"Heddiw, mae merched yn cymharu eu hunain â phobl eraill o ganlyniad i gyfryngau cymdeithasol sy'n aml yn arwain at ddiffyg hunanwerth. Wedi'r cyfan, mae ymbweru merched i wireddu eu potensial yn bersonol ac yn broffesiynol, ac i ddilyn eu breuddwydion a'u hangerdd yn gam allweddol tuag at sicrhau cymdeithas lewyrchus. Mae hi hefyd yn bwysig i ni gynyddu proffil Cymru a’r Gymraeg, drwy ddangos i'r byd ein bod ni fel cenedl yn cefnogi'r Neges bwysig hon.

"Roedd hi'n deimlad pwerus i allu rhannu fy mhrofiad i fel menyw gyda phobl eraill, a gweld bod nifer eraill wedi profi pethau tebyg. O hyn ymlaen mi fyddai'n annog merched o'm cwmpas i beidio ag amau eu hunain ac i ddilyn eu breuddwydion."

Llun o'r myfyrwyr sydd wedi cymryd rhan yn y neges