Bwrsariaethau Llywodraeth Cymru (Meistr a Addysgir)
Mae Llywodraeth Cymru wedi adnabod bod astudio drwy’r Gymraeg ar lefel ôl-raddedig o fantais sylweddol. Mae tri Chynllun Bwrsariaeth ar gael ar gyfer myfyrwyr o Gymru sy’n astudio cyrsiau Meistr a Addysgir ym Mhrifysgol Abertawe. Un o’r cynlluniau hynny yw Bwrsariaethau gwerth £1,000 yr un sy’n benodol i fyfyrwyr sy’n dewis astudio o leiaf 40 credyd trwy gyfrwng y Gymraeg. Am fanylion pellach, cer i dudalen Bwrsariaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer Astudio Trwy'r Gymraeg.
Gall myfyrwyr sy’n dewis astudio cwrs cymwys mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg neu feddygaeth hefyd dderbyn bwrsariaeth ychwanegol o £2,000. Am fanylion pellach, cer i dudalen Bwrsariaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer Pynciau STEMM.
Gall myfyrwyr 60 oed a hŷn o Gymru sy'n astudio gradd Meistr a Addysgir dderbyn bwrsariaeth gwerth £4,000. Am fanylion pellach, cer i dudalen Bwrsariaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Pobl 60+.
Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau cyfrwng Cymraeg Academi Hywel Teifi
Mae cynllun Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau cyfrwng Cymraeg Academi Hywel Teifi yn agored i fyfyrwyr sydd eisoes wedi dewis dod i Brifysgol Abertawe ac sydd yn dewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg lle bo cyfle, yn hytrach na thrwy’r Saesneg. Am fwy o wybodaeth ac i weld y pynciau sy'n gymwys, cer i dudalen Ysgoloriaethau Academi Hywel Teifi a Bwrsariaethau Academi Hywel Teifi.
Ysgoloriaeth Goffa Hywel Teifi
Mae Ysgoloriaeth Goffa Hywel Teifi ar gael ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig cyfrwng Cymraeg sydd am astudio gradd Meistr trwy Ymchwil, MPhil neu PhD mewn maes yn ymwneud â chyfraniad y diweddar Athro Hywel Teifi Edwards i ddysg a diwylliant Cymru, meysydd megis llenyddiaeth Gymraeg, yr iaith Gymraeg, y Cyfryngau, Gwleidyddiaeth neu Hanes.
Benthyciadau a Grantiau Tystysgrif Addysg i Raddedigion
Gall myfyrwyr sy'n astudio Tystysgrif Addysg Ôl-raddedig mewn Addysg (TAR) yn llawn amser neu'n rhan-amser gael arian i helpu gyda chostau'r cwrs, ar yr amod bod holl feini prawf cymhwysedd Cyllid Myfyrwyr yn cael eu bodloni.
Mae cyrsiau Tystysgrif Addysg Ôl-raddedig (TAR) yn derbyn yr un arian â chwrs gradd israddedig. Mae hyn yn golygu, os ydych yn gymwys, byddwch yn gallu cyflwyno cais am gymorth gyda ffioedd dysgu a chostau byw.
Gallai graddedigion sy'n dymuno astudio TAR mewn meysydd pwnc penodol fod yn gymwys am gymhellion hyfforddiant athrawon. Mae cymhellion hyfforddiant athrawon yn cael ei weinyddu gan Lywodraeth Cymru ac mae'n werth £20,000 (gan ddibynnu ar y maes pwnc a dosbarthiad gradd/meistr).
Am fanylion pellach, cer i dudalen Cyllid TAR
Cynllun Ysgoloriaethau Ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (PhD)
Mae Cynllun Ysgoloriaethau Ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cefnogi myfyrwyr sy’n astudio ar gyfer doethuriaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae ysgoloriaethau doethuriaeth diweddar a gyd-ariannwyd gan y Coleg Cymraeg a Phrifysgol Abertawe yn cynnwys meysydd Seicoleg, Cyfieithu, Cymraeg, Cemeg a Gwyddorau Biofeddygol. Am fanylion pellach, cer i wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol neu cysyllta gyda Swyddog Cangen Prifysgol Abertawe i.l.owen@abertawe.ac.uk
Gwybodaeth bellach
I ddysgu am ffioedd ac ariannu cyffredinol y Brifysgol ar gyfer Ôl-raddedigion, cer i dudalen Ffioedd ac Ariannu.