Alex Shufflebotham

Alex Shufflebotham

Gwlad:
Cymru
Cwrs:
BEng Peirianneg Awyrofod

Derbyniodd Alex ysgoloriaeth o Sefydliad Americanaidd-Brydeinig Tecsas (BAFTX) ar gyfer ei astudiaethau dramor yn Nhecsas

Heb yr ysgoloriaeth gan BAFTX, ni fyddwn wedi gallu ymweld â Thecsas ac ehangu fy ngorwelion yn y ffordd a wnes i.

Y peth gorau am astudio dramor oedd gallu profi'r ffordd wahanol o fyw a'r foeseg gwaith wahanol, a gallu ymweld â Chanolfan Gofod Johnson yn Houston a Brownsville, lle mae safle lansio SpaceX De Tecsas.

Mae astudio dramor wedi fy ngalluogi i feddwl yn ehangach a mynd i'r afael â heriau roeddwn i'n meddwl ynghynt nad oeddent o fewn fy ngallu.