Alisha Gibbons
- Gwlad:
- Cymru
- Cwrs:
- PhD Rheoli Busnes
O oedran ifanc iawn, roeddwn i bob amser yn gwybod fy mod i am ddilyn gradd yn y brifysgol. A minnau'n fyfyriwr lleol, roeddwn i'n gwybod am y posibilrwydd a'r pleser o astudio yn Ysgol Reolaeth Campws y Bae yn Abertawe. Gan gadw hyn mewn cof, mynd i brifysgol mor uchel ei pharch oedd fy mhrif flaenoriaeth a chymhelliant wrth astudio am fy arholiadau Safon Uwch.
Pan oeddwn i’n blentyn ifanc, byddai fy nhad yn aml yn mynd â mi i'r gwaith lle byddwn i'n ei wylio'n rhaglennu ac yn cynnal prosesau roboteg a gweithgynhyrchu y rhoddodd rhan fawr o'i fywyd i'w cyflawni. Roedd fy nhad yn credu'n gryf mewn gwelliant parhaus a gwella'r cwmni'n gyson, ond nid dyma duedd na diwylliant y cwmni cyfan a methodd llawer o fentrau i'w wella. O ystyried fy nghefndir a'm brwdfrydedd dros reoli gweithrediadau a rheoli mewn modd diwastraff, rwy'n awyddus i ddatblygu fframwaith ar gyfer rhagoriaeth weithredol barhaus sy'n galluogi sefydliadau i gyflawni canlyniadau’n barhaus.
Ar ôl cael y profiad o gwblhau gradd israddedig ym Mhrifysgol Abertawe, roeddwn i’n awyddus i barhau i fod yn fyfyriwr ac i ddilyn astudiaethau ôl-raddedig o ganlyniad i’r potensial roedd gan y Brifysgol i’w gynnig.
Nid oedd yn hawdd trosglwyddo o astudiaethau israddedig i astudiaethau ôl-raddedig, ond cefais i fy nghefnogi a'm hannog yn barhaus gan aelodau staff Prifysgol Abertawe drwy’r amser. Yn ogystal, mae'r gweithfannau rhagorol i ôl-raddedigion yn fy ngalluogi i weithio mewn amgylchedd proffesiynol ond cyfeillgar, lle rwyf wedi cwrdd â llawer o ffrindiau a meithrin cysylltiadau gwerthfawr.
Mae'r maes ymchwil rwyf wedi dilyn doethuriaeth ynddo'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd rhaglenni rhagoriaeth weithredol. Yn y farchnad gyfoes, gystadleuol a byd-eang, mae llawer o sefydliadau'n rhoi mentrau rhagoriaeth ar waith, gyda'r nod o fod yn fwy gwydn a chystadleuol. Fodd bynnag, mae'r mentrau rhagoriaeth hyn yn methu'n aml o ganlyniad i bwyslais sefydliadol ar systemau technegol, gan danseilio pwysigrwydd systemau cymdeithasol. Felly, bydd ymchwil fy noethuriaeth yn ystyried galluogwyr rhaglenni rhagoriaeth weithredol sy'n hwyluso rhagoriaeth barhaus drwy integreiddio systemau cymdeithasol-dechnegol.
Rwy'n mwynhau fy astudiaethau ôl-raddedig, ond ar ôl eu cwblhau hoffwn i aros yn y byd academaidd ym Mhrifysgol Abertawe. Hoffwn i hefyd fod yn ymgynghorydd busnes, gyda'r nod o alluogi sefydliadau i gyflawni canlyniadau, a hynny'n barhaus.