Llun o Amy

Amy Locke

Gwlad:
Cymru
Cwrs:
PhD Astudiaethau Meddygaeth a Gofal Iechyd

Y peth gorau am ymgymryd â'm gwaith PhD ym Mhrifysgol Abertawe yw'r cymorth a'r arweiniad eithriadol sy'n cael eu darparu yn y cyfleuster gwyddor data poblogaethau. Mae'r staff yn fy adran wedi fy ngalluogi i dyfu fel ymchwilydd annibynnol.

Mae'r rhaglen wedi darparu, ac mae'n parhau i ddarparu, gyfleoedd gwerthfawr i gydweithredu â llunwyr polisi, gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru, i wella fy ymchwil.

Myfyriwr PhD ydw i sy'n gwneud fy ymchwil yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth, yn yr Ysgol Feddygaeth.

Gan fy mod i'n byw yn Abertawe, roeddwn i'n awyddus i aros yn lleol. Fe wnes i gwblhau fy MSc ym Mhrifysgol Abertawe yn 2021 ac roeddwn i'n awyddus i wneud rhagor. Roeddwn i'n gwybod fy mod i eisiau parhau â'm haddysg yma oherwydd enw cryf y Brifysgol am ymchwil.

Yn sgîl yr heriau a achoswyd gan bandemig Covid-19 a'r argyfwng costau byw sy’n parhau, mae gallu llawer o blant a theuluoedd i fwyta prydau bwyd iach a maethlon yn gyfyngedig. Des i ar draws yr hysbysiad am ysgoloriaeth ymchwil yn canolbwyntio ar werthuso prydau ysgol am ddim i bawb ac roeddwn i'n gwybod fy mod i eisiau bod yn rhan o hyn. Daeth hi'n amlwg y gallwn i gyfrannu'n weithredol at ymchwil bwysig a allai helpu i werthuso'r heriau mae plant yn eu hwynebu heddiw.

Mae fy ymchwil yn archwilio cyflwyniad prydau ysgol am ddim i bawb mewn addysg gynradd, gan ganolbwyntio ar iechyd a lles plant. Bydda i'n gwerthuso effeithiau hyn ar iechyd plant drwy ganolbwyntio ar faterion cyffredin sy'n gysylltiedig â maeth gwael, er enghraifft problemau anadlu, diffyg fitaminau ac anhwylderau gastroberfeddol. Hefyd, bydd yr ymchwil yn archwilio buddion prydau ysgol am ddim i bawb ar gyfer iechyd seicolegol, emosiynol a chymdeithasol plant.

Fy nod yw cynnal gwerthusiad trylwyr o brydau ysgol am ddim i bawb yng Nghymru er mwyn llywio polisi a mynd i'r afael â phroblem tlodi parhaus ymhlith plant, sy'n effeithio ar 31% o blant yng Nghymru ar hyn o bryd. Drwy ddarparu dealltwriaeth fanwl gywir, mae fy ymchwil yn ceisio cyfrannu at bolisïau sy'n sicrhau bod bwyd iach a maethlon ar gael i'r holl blant, a lliniaru'r effeithiau negyddol sy'n gysylltiedig â maeth gwael.

Rwyf bob amser wedi bod yn frwdfrydig am ddefnyddio fy ymchwil i wella bywydau, yn enwedig o ran iechyd a lles. Fy nod yw gwneud cyfraniad gwerthfawr drwy fy ymchwil yn ystod fy ysgoloriaeth ymchwil. Er nad oes gen i gynlluniau penodol ar ôl cwblhau fy ysgoloriaeth ymchwil, rwy'n hyderus y bydd fy mhrofiadau ym Mhrifysgol Abertawe yn helpu i lwyo fy ymdrechion yn y dyfodol.