Aneirin Karadog

Aneirin Karadog

Gwlad:
Cymru
Cwrs:
PhD Cymraeg

Roedd y cyfle i fynd yn ôl i’r byd academaidd yn un apelgar iawn ac yn gyfle i ail ddarganfod lot amdanaf i fy hun. 

Ar ôl 11 mlynedd o fod yn y byd gwaith penderfynais astudio am ddoethuriaeth. Ar ôl gweithio fel ymchwilydd yn y byd teledu, roedd ymchwil yn ei natur o ddiddordeb i fi. Roedd cael ymchwilio’n ddyfnach ac ailddysgu technegau academaidd yn agor nifer o gyfleoedd i mi.

Maes fy ymchwil oedd barddoniaeth Gymraeg. Edrychais ar y berthynas rhwng y bardd, ei gyfrwng a’i gynulleidfa. Yn y pen draw, ceisiais ganfod a oes y ffasiwn beth â cherdd berffaith, a all drosgynnu’r holl gyfryngau a chynulleidfaoedd. Roedd cael y cyfle i ganolbwyntio ar ysgrifennu creadigol a gorfodaeth i wneud hynny fel rhan o’r radd yn nefoedd i rywun sy’n hoffi ysgrifennu, roedd rhaid englyna bob dydd! Roedd hefyd cyfleoedd i addysgu fel rhan o’r radd ddoethuriaeth – roedd hyn yn gyffrous.

Fy nghyngor i ddarpar-fyfyrwyr yw does dim anfanteision i astudio gradd ôl-raddedig. Os nad ydych chi’n siŵr o'r hyn rydych eisiau ei wneud, gall hyn eich helpu i finiogi eich trywydd gyrfa a sianelu eich egni i elfen a maes penodol.